Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw rwy'n cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu a'u cadw, gyda £3.2m wedi'i glustnodi yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn gwneud gwaith atgyweirio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Dyrannwyd £500,000 arall hefyd i helpu i wella cyfleusterau storio a diogelu casgliadau pwysig mewn amgueddfeydd ac archifau lleol ac annibynnol sy'n adrodd straeon ein cymunedau ledled Cymru.
Bydd cyllid hefyd yn parhau i gael ei fuddsoddi i ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, a fydd yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy a gwell mynediad i'r casgliad cenedlaethol yng Ngogledd Cymru.
Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n horielau yn rhannau hanfodol o fywyd diwylliannol yng Nghymru a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i'w diogelu hwy a'u casgliadau er budd pobl ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol.
Gan bwysleisio ein hymrwymiad i degwch o ran mynediad, bydd y model gwasgaredig ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, yn rhoi mwy o fynediad i'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn agosach at gymunedau trwy rwydwaith o naw oriel sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Cymru. Bydd mynediad i fwy o gasgliadau Cymru hefyd yn cael ei ddarparu drwy barhau i ddatblygu'r platfform ar-lein digidol 'Celf ar y Cyd'. Mae'r wefan bresennol eisoes yn galluogi mwy o bobl ledled Cymru a'r byd i fwynhau ein casgliad cenedlaethol o gelf.
Mae'r flaenoriaeth uniongyrchol o ddiogelu a chadw sefydliadau diwylliannol a'u casgliadau yn golygu na fydd modd buddsoddi mewn oriel angor ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa newydd Gogledd Cymru ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith sylweddol o ailddatblygu Theatr Clwyd yn Sir y Fflint ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw ehangach yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth dros y blynyddoedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol dwys ar bob sefydliad diwylliannol, - ar lefel genedlaethol a lleol ac mae'n gweithredu i liniaru'r anawsterau hyn. Rhaid gwneud penderfyniadau a dewisiadau anodd fodd bynnag a’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw helpu i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol, boed yn fawr neu'n fach, yn genedlaethol neu'n lleol.
Rydym wedi bod yn onest am yr heriau ariannol rydym yn eu hwynebu ond nid yw hyn yn ein hatal rhag bod yn uchelgeisiol ar gyfer y sector. Mae'r buddsoddiad rydym yn parhau i'w wneud a'n hymgynghoriad ar flaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant dros y chwe blynedd nesaf yn dangos pa mor bwysig yw diwylliant i Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu ein sefydliadau a'n casgliadau diwylliannol.