Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gymorth ychwanegol a ddarperir i undebau credyd y gaeaf hwn i ategu eu sefyllfa fel y prif fenthycwyr moesegol a chyfrifol yng Nghymru.

Mae undebau credyd yn parhau i fod yn achubiaeth i lawer o aelwydydd sy'n ei chael yn anodd rheoli eu cyllideb, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i'w cefnogi i wneud hyn.

Er nad credyd yw'r ateb i bawb, i lawer o bobl gall benthyciad bach tymor byr helpu i dalu costau annisgwyl, hwyluso'r llif incwm, a dechrau meithrin gwytnwch ariannol. Yr her yw bod pobl ar yr incwm isaf yn fwy tebygol o dalu mwy am eu credyd, a bod eu hanes credyd yn fwy anghyson, gan ei gwneud yn anoddach i'w gael.

Gwyddom fod un o bob tri o bobl yn cael trafferth benthyg gan fanciau prif ffrwd. Rydym hefyd yn gwybod y gall pobl sydd mewn amgylchiadau ariannol bregus sy'n cael eu heithrio o gyllid prif ffrwd droi at opsiynau credyd anfforddiadwy ac anghyfreithlon. 

Rydym am newid hyn. Rwy'n anelu at gynyddu mynediad at gredyd fforddiadwy drwy undebau credyd, er mwyn cau'r bwlch hwn mewn darpariaeth foesegol.

I bobl mewn dyled ac nad yw eu sgôr credyd yn gryf, mae'r dewisiadau benthyg sydd ganddynt yn aml yn gyfyngedig iawn. Mae aelwydydd y gwrthodir benthyciad iddynt bum gwaith yn fwy tebygol o gael benthyciad naill ai gan fenthyciwr anghyfreithlon, benthyciwr stepen y drws, benthyciwr diwrnod cyflog neu siop wystl.

Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn eu cael eu hunain mewn amgylchiadau ariannol bregus ac yn methu â chael credyd. Rwyf am sicrhau bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau ariannol cywir yn eu lle pan fydd eu hangen fwyaf ar bobl. 

Mae undebau credyd yn allweddol i hyn, gan gynllunio cynhyrchion moesegol a chyfrifol sydd wedi'u teilwra'n well i anghenion pobl sy'n fregus yn ariannol, ac felly'n ehangu cynhwysiant ariannol ledled poblogaeth Cymru.

Y cyfnod cyn y Nadolig yw amser prysuraf y flwyddyn i undebau credyd bob amser, pan fydd llawer o bobl am gael benthyg arian yn fforddiadwy. Felly, rwy'n darparu £408,719 o gyllid ychwanegol i undebau credyd ym mis Tachwedd fel y gallant barhau i roi benthyg yn hyderus i bobl sydd angen mwy o gefnogaeth. 

Fe wnaethom fuddsoddi £1.2m mewn undebau credyd yn 2022 fel bod ganddynt yr hyder i ehangu eu benthyca i bobl sydd â hanes credyd gwael. Mae'r cyllid hwn wedi'i ailgylchu'n llwyddiannus, gan gefnogi mwy o bobl i gael mynediad at gredyd fforddiadwy. Hyd yma, mae dros 3,600 o bobl wedi cael benthyciad gan undeb credyd am y tro cyntaf, ac mae hyn yn parhau i dyfu. Bydd y £408,719 ychwanegol yn rhoi hwb pellach i'w benthyca y gaeaf hwn, i unigolion newydd, a nawr, yn hanfodol, i unigolion sydd eisoes yn aelodau o undebau credyd.

Mae undebau credyd wedi ymrwymo i hyrwyddo arferion ariannol da. Maent yn trin pobl sy'n gwneud cais am fenthyciad yn sensitif, ac â fforddiadwyedd mewn golwg bob amser. Dyna pam fy mod i'n ymroddedig i'w cefnogi.

A'r rhan fwyaf o bobl yn mynd ar-lein i gael cyllid erbyn hyn, mae'n hanfodol bod undebau credyd yn cael eu digidoleiddio'n llawn. Rydym wedi darparu £637k o gyfalaf i undebau credyd ers y pandemig, sy'n gweddnewid y sefyllfa, i adeiladu llwyfannau technoleg newydd a datblygiadau eraill o ran technoleg ariannol. Rwy'n falch o ddweud bod undebau credyd wedi ymateb i'r her hon, a'u bod bellach yn cynnig yr un dechnoleg ddigidol â banciau. 

Drwy'r cyfarfodydd Benthycwyr Cyfrifol rwy'n eu cadeirio, rwyf wedi gofyn i ddarparwyr gwasanaethau cynghori ac eraill weithio gyda'u hundebau credyd lleol i gefnogi'r cleientiaid bregus y maent yn eu gwasanaethu yn y ffordd orau. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth undebau credyd, fel bod pobl yn gwybod beth yw eu hopsiynau o ran cael credyd cyfrifol.

Rwy'n parhau i annog twf y cydberthnasau hyn, ac i sectorau weithio gyda'i gilydd, gan gefnogi pobl sy'n fregus yn ariannol ond sydd hefyd yn debygol o barhau i fod angen cael benthyciadau.  Mae'n hanfodol bwysig eu bod yn gwneud hynny ar sail fforddiadwy a moesegol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu rhag benthycwyr arian anghyfreithlon.