Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi £25 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2024-25 i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol ac ysgolion, ac i helpu cynghorau i ymateb i bwysau eraill yn eu cymunedau lleol. Bydd y cyllid ychwanegol yn rhan o gynigion Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddir ar 27 Chwefror, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i dargedu buddsoddiad tuag at ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf gwerthfawr.
Ar 24 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd o £600 miliwn yn ei setliad llywodraeth leol yn Lloegr, yn bennaf er mwyn ymateb i bwysau yn y maes gofal cymdeithasol. Dywedwyd wrthyf y dylai hyn arwain at ddyraniad canlyniadol o tua £25 miliwn i Gymru yn 2024-25. Bydd hyn, ynghyd ag unrhyw newidiadau eraill i'n setliad, yn cael ei gadarnhau yng Nghyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU ar 6 Mawrth yn unig, ochr yn ochr ag unrhyw symudiadau cadarnhaol a/neu negyddol eraill i'n cyllideb.
Mae awdurdodau lleol ac aelodau'r Senedd wedi trafod y penderfyniadau anodd y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu y flwyddyn nesaf yn yr hinsawdd ariannol hynod anodd sydd ohoni, hyd yn oed gyda'r cynnydd o 3.1% i'r grant cynnal refeniw y gwnaethom ei ddarparu yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25. I roi cymaint o sefydlogrwydd ariannol â phosibl i awdurdodau lleol yn y cyfnod caled hwn - cyn gynted â phosibl - rwyf heddiw yn cadarnhau y bydd £25 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol yng Nghyllideb Derfynol 2024-25.
Bydd rhan o'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i adfer grant y gweithlu gofal cymdeithasol i £45 miliwn yn y flwyddyn 2024-25. Bydd y £14.4 miliwn sy'n weddill yn cael ei ddyrannu i'r grant cynnal refeniw fel rhan o'r setliad i gefnogi'r pwysau yn y maes gofal cymdeithasol ac addysg, gan gynnwys cyflogau athrawon.
Mae hyn yn cefnogi un o'n hegwyddorion allweddol wrth bennu'r gyllideb ddrafft - diogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd cyn belled ag y bo modd.
Mae'r cyllid gwaelodol, a sefydlais ar gyfer 2024-25, yn aros yr un fath. Mae'r cyllid cynyddol hwn bellach yn golygu na fydd unrhyw awdurdod unigol yn cael cynnydd o lai na 2.3%.