Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n falch o gyhoeddi bod £18 miliwn ychwanegol ar gael yn 2021-22 i gefnogi darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
O’r cyllid hwn, bydd £10 miliwn yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd o dan anfantais bellach oherwydd y pandemig, a bydd £8 miliwn yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer meithrinfeydd a gynhelir, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddynt y capasiti, yr amser a’r adnoddau angenrheidiol i weithredu’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.
Mae effaith COVID-19 i’w weld ar bob dysgwr, ond mae’n cael effaith anghymesur ar ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed, yn arbennig pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i wella o effeithiau’r pandemig, fe allwn leihau’r tebygolrwydd y bydd effeithiau tymor hir/gydol oes ar eu haddysg, sgiliau, iechyd a’u lles.
Rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan ysgolion, sydd â’u cyllidebau a’u capasiti staff eisoes dan bwysau, bod angen cyllid ychwanegol i’w helpu i baratoi ar gyfer y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a’i gweithredu, proses sy’n cychwyn yn raddol dros gyfnod o dair blynedd. Bydd yr £8 miliwn ychwanegol gennyf fi yn darparu cymorth ychwanegol i’r lleoliadau hyn, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ganddynt i symud plant a phobl ifanc o’r hen system anghenion addysgol arbennig i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.
Mae rhoi cymorth i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r llywodraeth hon wrth i ni ddal ati i weithredu er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ffynnu.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.