Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg
Mae pandemig Covid-19 wedi creu amgylchiadau heriol ar gyfer ein holl ddysgwyr ac yn enwedig y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol; eu teuluoedd; a'r rhai sy'n gweithio i roi cymorth i’r dysgwyr hynny. Yn aml nhw yw'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn ein system addysg.
Rwy’n falch felly o gyhoeddi £9.8 miliwn yn ychwanegol i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn 2020-21 yn benodol mewn ymateb i bwysau sy’n codi o bandemig Covid-19. Mae hyn yn ychwanegol at yr £8 miliwn a gyhoeddwyd y llynedd a'r pecyn cymorth o £20 miliwn ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid ADY sydd eisoes ar waith ar gyfer tymor cyfredol y Senedd, ac mae'n cydnabod yr anawsterau penodol i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ystod Covid-19.
Rhoddodd y cyfnod "Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi" gyfle i ni nodi unrhyw rwystrau i ddysgu sy’n wynebu plant agored i niwed neu difreintiedig, gan gynnwys rhai ag ADY. Yn dilyn hynny, cyhoeddais ganllaw atodol ar gyfer tymor yr hydref sydd yn ymdrin yn benodol ag anghenion ymarferol, anghenion emosiynol ac anghenion dysgu plant agored i niwed a difreintiedig, gan gynnwys rhai sydd ag ADY. Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach i ychwanegu at y mesurau a roddwyd ar waith eisoes ac adeiladu arnynt.