Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS,Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gael cyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru am neilltuo £5m ychwanegol o gyllid refeniw i gyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich Cymru ac i Cadw. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol sy'n wynebu ein sefydliadau diwylliannol a chwaraeon. Mae'r cyllid sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn dilyn y £2m o refeniw ychwanegol gafodd ei ailbwrpasu yn gynharach eleni i liniaru effaith colli swyddi yn Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a sector ehangach y celfyddydau, a'r pecyn cyllid cyfalaf gwerth £3.7m a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf i ddiogelu a gwarchod trysorau cenedlaethol Cymru.

Daw'r £5m ychwanegol o'n cronfeydd wrth gefn a bydd yn helpu i roi mwy o sefydlogrwydd ariannol i'n cyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich. Mae'r sefydliadau hyn yn hanfodol i wireddu sawl un o addewidion y Rhaglen Lywodraethu ac maent yn chwarae rhan sylfaenol wrth hyrwyddo iechyd a lles meddyliol a chorfforol ac wrth ddod â chymunedau ynghyd. 

Bydd arian ychwanegol yn mynd i Amgueddfa Cymru (£940k), Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£725k) a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (£90k). Bydd yr arian yn helpu'r sefydliadau hyn i fuddsoddi yn rhai o'r gwasanaethau allweddol y maent yn eu darparu i bobl Cymru. 

Bydd yr £1.5m yn ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi sefydliadau celfyddydol, gan ganolbwyntio ar gryfhau eu trefniadaeth. 

Bydd yr £1m ychwanegol i Chwaraeon Cymru a'i bartneriaid hefyd yn helpu i wneud y sefydliadau chwaraeon hyn yn fwy gwydn.

Bydd y £745k ychwanegol i Cadw yn diogelu ei gynaliadwyedd ariannol ac yn ei helpu i gyflawni ei rwymedigaethau statudol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol yn ogystal ag i fuddsoddi mewn gweithgareddau masnachol i gynhyrchu incwm. 

Rydym yn cydnabod yn llwyr ei bod yn gyfnod ariannol anodd i sefydliadau celfyddydol a chwaraeon hyd braich yn ogystal ag i Cadw. Er na fydd y cyhoeddiad heddiw yn llwyr wyrdroi effeithiau'r penderfyniadau anodd yr ydym wedi gorfod eu gwneud i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, bydd yn helpu i roi sefydlogrwydd ariannol i'r cyrff hyn ac yn eu gwneud yn fwy gwydn.

Bydd y cyllid refeniw ychwanegol yn cael ei ddarparu yn 2024-25 yn unig ac nid yw'n rheolaidd ei natur.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.