Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Y Cabinet Dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwneir y datganiad hwn i roi'r diweddaraf i'r Aelodau am y camau sydd wedi eu cymryd gennyf wedi i mi gael gwybod yn ddiweddar bod Grantiau ar gyfer Dibynyddion wedi cael eu talu'n anghywir dros y degawd diwethaf i nifer o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru oedd ar gyrsiau dysgu o bell.

Nid yw'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr mewn addysg uwch yn caniatáu i fyfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell gael Grantiau ar gyfer Dibynyddion, gan nad ydynt yn mynd ar gampws yn bersonol. Mae'r polisi hwn, a'r modd y gweithredir y rheoliadau, yn gyson ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.

Mae'r rheoliadau ar gyfer y rhan hon o'r system cymorth i fyfyrwyr ar waith ers cyn i gymorth i fyfyrwyr gael ei ddatganoli yn 2006.

O ganlyniad i'r newidiadau diweddar ym maes cymorth i fyfyrwyr ac addysg uwch a gyflwynwyd gennyf, diwygiwyd y rheoliadau yn 2018 i sicrhau bod myfyrwyr rhan-amser yn gallu cael yr un cymorth â myfyrwyr amser llawn. Cymru yw'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sydd yn rhoi cydraddoldeb o ran cymorth yn y modd blaengar hwn.

Fel rhan o'r diwygiadau hyn, gwelwyd cyfle i gynnwys darpariaeth benodol ar y cymhwystra ar gyfer Grantiau ar gyfer Dibynyddion. 

Yn dilyn yr eglurhad ar fwriad y polisi, cadarnhaodd Cyllid Myfyrwyr Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru bod myfyrwyr rhan-amser ar gyrsiau o bell wedi  cael Grantiau ar gyfer Dibynyddion, sy'n cynnwys Grant Gofal Plant, Grant Oedolion Dibynnol a Lwfans Dysgu i Rieni.  Maent wedi cadarnhau eu bod, hyd yn hyn, wedi asesu 471 o geisiadau am gymorth yn 2018/19 gan fyfyrwyr a gafodd Grantiau ar gyfer Dibynyddion yn 2017/18.

Yna, ataliodd Cyllid Myfyrwyr Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru geisiadau'r myfyrwyr tra bo Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth iddynt. Nid effeithiwyd ar asesiad o gymorth craidd y myfyrwyr (ffi dysgu/cymorth cynhaliaeth).

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a'r effaith bosibl ar fyfyrwyr unigol, rwy'n rhoi gwybod i'r Aelodau fy mod wedi dod i'r casgliadau canlynol:

  • gwnaed y dyraniadau gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ddidwyll, ac mae hyn wedi codi oherwydd camddehongliad pur o'r rheoliadau yn unig;
  • Nid wyf yn credu y byddai’n deg caniatáu i unrhyw fyfyrwyr ddioddef colled ariannol neu galedi o ganlyniad i ddileu mynediad at y gefnogaeth y maent wedi ei chael hyd yn hyn; ac,
  • dylai myfyrwyr sydd wedi dechrau eu cyrsiau cyn 2018 barhau i gael Grantiau ar gyfer Dibynyddion tan y byddant wedi cwblhau eu hastudiaethau neu dynnu'n ôl o'u cwrs (cyn belled â'u bod yn parhau i fodloni'r meini prawf cymhwystra.

Oherwydd hynny, rwyf wedi cytuno y dylid ysgwyddo cost y taliadau Grantiau ar gyfer Dibynyddion i fyfyrwyr rhan-amser a wnaed mewn camgymeriad. Mae'n dod yn gyfanswm o £3.25m, a bydd hyn yn cael ei gofnodi yn nghyfrifon ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19. Yn ychwanegol at hynny, rwyf wedi cytuno y bydd dyfarniadau’r dyfodol yn cael eu cofnodi fel taliadau arbennig  – bydd rhagor o wybodaeth am werth y taliadau yn cael ei chynnwys yn ein cyfrifon yn y blynyddoedd i ddod.

Mae Cyllid Myfyriwr Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi gwarantu bod yr holl geisiadau bellach wedi eu prosesu a bydd arian yn cael ei ddyfarnu i bob myfyriwr unigol cyn gynted â phosibl.

Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio â'r Brifysgol Agored yng Nghymru a Cyllid Myfyrwyr Cymru i ddod o hyd i ateb sy'n diwallu anghenion a disgwyliadau'r myfyrwyr, ac sydd hefyd yn sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei reoli yn iawn.

Serch hynny, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi amser i edrych ar y prosesau a'r gweithdrefnau sydd yn eu lle o fewn y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi fel na all hyn ddigwydd eto yn y dyfodol. Felly, mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol wedi gofyn i adran archwilio mewnol Llywodraeth Cymru edrych ar y prosesau sydd wedi arwain at ordalu grantiau myfyrwyr ac i ddarparu argymhellion i wella'r systemau.

Hoffwn roi cadarnhad i Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nad oes dim amwysedd ynghylch cymhwystra myfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell yn rheoliadau cymorth myfyrwyr 2018/19. Nid yw myfyrwyr newydd sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yn 2018/19 yn gymwys ar gyfer Grantiau ar gyfer Dibynyddion. Fodd bynnag, o dan y pecyn cymorth i fyfyrwyr newydd, sy'n fwy hael, bydd gan fyfyrwyr rhan-amser fynediad at grantiau a benthyciadau cynhaliaeth. Mae'r sefyllfa hon yn sicrhau cydraddoldeb o ran cymorth i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i'ch sicrhau chi fy mod yn gweld gwerth mawr i'r hyblygrwydd sy'n cael ei gynnig gan gyrsiau o bell i fyfyrwyr Cymru, gan alluogi iddynt astudio cyrsiau addysg uwch o’u cartref.

Bydd myfyrwyr newydd sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn parhau i allu manteisio ar lefelau ffioedd â chymhorthdal o'u gymharu a chyrsiau yn Lloegr, a byddant am y tro cyntaf yn cael cymorth cynhaliaeth sy'n gyfwerth â'r pecyn cymorth amser llawn (ar sail pro rata). Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig cydraddoldeb o ran cymorth, waeth beth yw'r modd astudio.