Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod, fel rhan o'n gwaith i gryfhau'r cydweithio rhwng partneriaid i fynd i'r afael â thlodi plant, wedi dyfarnu 22 grant ar draws Cymru o dan ein Cynllun Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau .
Cafodd Strategaeth Tlodi Plant Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, ei llunio ar y cyd â phlant, pobl ifanc a theuluoedd, a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.
Clywsom yn glir bod llawer o'r polisïau a'r cynlluniau sydd gennym ar waith yn gywir, ond er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf mae angen i ni fod yn ddoethach ynghylch cydweithio ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid eraill i sicrhau newid cadarnhaol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Bydd y gwaith sy'n cael ei ariannu yn cryfhau gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcanion Strategaeth Tlodi Plant Cymru, ac yn eu cefnogi i gyfathrebu'n well a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant ar lefel ranbarthol, lleol neu gymunedol.
Mae tlodi plant yn fater polisi trawsbynciol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o brosiectau sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid yn y broses dyfarnu grant gystadleuol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i fanteisio i’r eithaf ar yr holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, a byddwn yn chwarae rôl arweiniol wrth gydgysylltu camau ehangach i weithio tuag at ddileu tlodi plant a'i effeithiau yma yng Nghymru.
Byddwn yn casglu tystiolaeth o'r gwaith o gyflawni'r prosiectau a ariennir ac yn ei rhannu ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol er mwyn helpu partneriaid ledled Cymru i ddysgu wrth ei gilydd wrth i ni gydweithio i gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin i fynd i'r afael â thlodi plant.