Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae mynd i'r afael â thlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o gyhoeddi fy mod heddiw wedi rhyddhau £1,495,000 arall i gefnogi sefydliadau i ffurfio a gwella trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Fel rhan o'n hymdrechion i wella gwaith partneriaeth er mwyn newid pethau er gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, rwy'n cyhoeddi ein bod wedi agor y cylch cyllid ar gyfer Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau 2025/26.
Mae hyn yn adeiladu ar y cyllid a ddarparwyd yn 2024/25 pan ariannwyd 22 o brosiectau i gryfhau gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella prosesau cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth.
Grant arloesi tlodi plant a chefnogi cymunedau: dyfarnu grantiau | LLYW. CYMRU
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau manwl ar wneud cais am y grant ar gael yma https://www.llyw.cymru/tlodi-plant-grant-arloesi-chefnogi-cymunedau