Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn buddsoddi £5.25 miliwn pellach i barhau â’n Cynllun Seibiant Byr a’n Cronfa Gymorth i Ofalwyr am ddeuddeg mis arall, tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Mae’n briodol inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi gofalwyr di-dâl mewn rôl sy’n gallu bod yn un hynod heriol, ac sy’n gallu eu rhoi o dan anfantais yn ariannol.
Cafodd ein Cynllun Seibiant Byr ei sefydlu yn 2022 yn ychwanegol at y dyletswyddau presennol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â seibiant i ofalwyr di-dâl. Mae’r cynllun yn cefnogi dulliau mwy arloesol, sydd wedi'u teilwra at yr unigolyn, o ddarparu seibiant o ofalu. Mae’n gallu cynnwys offer ar gyfer ymgymryd â diddordeb, ac aelodaeth o glybiau hamdden, yn ogystal â sesiynau gweithgaredd a gwibdeithiau. Mae’r cynllun ar y trywydd iawn i ddarparu 30,000 o gyfleoedd seibiant byr ychwanegol erbyn mis Mawrth 2025. Yn ôl y dystiolaeth, mae cyfleoedd o’r fath yn gwella lles gofalwyr di-dâl.
Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl ar incwm isel o bob oed i dalu am eitemau hanfodol. Gellid ei ddefnyddio i brynu bwyd, eitemau ar gyfer y cartref neu i dalu bil cyfleustodau. Rydym yn gwybod bod llawer o ofalwyr di-dâl o dan bwysau ariannol o ganlyniad i’w rôl ofalu. Mae’r rôl hon yn effeithio ar eu mynediad at gyflogaeth am dâl gan gynnwys nifer yr oriau y gallant weithio.
Nid oedd bron i hanner y gofalwyr di-dâl a ddefnyddiodd y cynlluniau dros y tair blynedd diwethaf yn hysbys i wasanaethau cyn hyn. Cafodd y gofalwyr hyn wybodaeth am eu hawliau cyffredinol a’u hawl i fathau penodol o gymorth yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau gofalwyr lleol o ganlyniad i ddod i gysylltiad â’r gwasanaethau. Mae hyn yn rhoi gwerth ychwanegol sylweddol i’r cynlluniau hyn fel porth i fathau eraill o gymorth.