Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi cytuno i ariannu a gweithredu ychwanegiad at gyflog staff y GIG sydd ar y cyflogau isaf, ac sy’n cael eu cyflogi ar delerau ac amodau gwasanaeth yr Agenda ar gyfer Newid. Bydd fy mhenderfyniad yn codi eu cyflog i’r lefel a argymhellir yn annibynnol gan y Living Wage Foundation, sef £9.50 yr awr, o 1 Ebrill 2021.  Bydd hyn yn sicrhau bod GIG Cymru yn parhau i fod yn gyflogwr cyflog byw.

Mae’r penderfyniad hwn yn sicrhau bod holl gyflogwyr y GIG yn parhau i fod yn gyflogwyr Cyflog Byw ac mae’n arddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r agenda trechu tlodi; rydym yn cydnabod bod cyflog isel yn broblem sylweddol i lawer o deuluoedd yng Nghymru, ac mae heriau tlodi mewn gwaith, yn anffodus, yn parhau.

Cyhoeddwyd hyn fel mesur dros dro tra bydd Llywodraeth Cymru yn aros am argymhellion Corff Adolygu Cyflogau annibynnol y GIG. Disgwylir iddynt gyhoeddi eu hargymhellion ar ddechrau’r haf. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr undebau a chyflogwyr y GIG i sicrhau codiad cyflog teg a fforddiadwy i staff y GIG yng Nghymru drwy’r broses annibynnol.