Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rwy’n ysgrifennu atoch i amlinellu’r trefniadau ar gyfer Cyllid Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru i fis Ebrill 2022.
Dangosodd yr ymgynghoriad yn gynharach eleni bod cefnogaeth i gyllid parhaus i gefnogi agenda cydraddoldeb Llywodraeth Cymru (fel yr adlewyrchir yn y Rhaglen Lywodraethu, y Cynllun SEP, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chynlluniau gweithredu cysylltiedig), drwy sefydliadau yng Nghymru sydd ag arbenigedd a chysylltiadau perthnasol â rhwydweithiau llawr gwlad.
Roedd ymatebwyr yn cydnabod bod cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diweddar, a bod angen cymryd camau pellach yn unol â dyheadau presennol Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u hadlewyrchu yn ein cynlluniau cydraddoldeb a’n hymrwymiadau eraill. Yn benodol, roedd cefnogaeth gref i ddull gweithredu, cydweithredol a rhyngadrannol mwy hirdymor sy'n rhoi darpariaeth ledled Cymru gyda dimensiwn rhanbarthol.
Ar yr un pryd, roedd rhanddeiliaid yn dweud yn glir bod angen parhau i ganolbwyntio ar faterion penodol mewn perthynas â Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; pobl anabl; rhyw; LGBTQ+; Sipsiwn, Roma a Theithwyr (yn gysylltiedig â chynlluniau gweithredu perthnasol Llywodraeth Cymru).
Erys cymorth arbenigol i ddioddefwyr troseddau casineb ac i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn hanfodol. Mae prosesau caffael newydd wedi dechrau i sicrhau parhad y ddau wasanaeth penodol hyn.
Ystyrir bod cyllid dan gontract yn llai priodol ar gyfer nodweddion gwarchodedig eraill, oherwydd mae anghenion cymorth yn debygol o amrywio dros amser ac mae prosesau caffael ffurfiol yn tueddu i eithrio rhai rhanddeiliaid allweddol a allai ddod â safbwyntiau gwerthfawr. Mae cyllid grant yn debygol o barhau fel yr opsiwn a ffefrir yn y meysydd hyn.
Fodd bynnag, yn hytrach na mynd ati’n syth i lansio proses ymgeisio gystadleuol newydd, rwyf am gydweithio â’n sefydliadau cydraddoldeb strategol i’n helpu i lywio’r gwaith hwn yn y dyfodol. Credaf mai’r ffordd orau o gyflawni rhaglen unffurf ar gyfer Cymru gyfan, fel yr un yr ydym yn ddymuno ei chael, yw cyd-greu rhaglen sy’n gwneud defnydd llawn o brofiadau byw ystod eang o bobl.
Yn yr ysbryd hwn o gyd-greu, rydym am gefnogi proses wedi'i hwyluso a fydd yn dod â sefydliadau at ei gilydd i gynllunio rhaglen newydd a chytuno ar y mecanweithiau mwyaf priodol i ddyrannu'r cyllid sydd ar gael.
Rwy’n gwybod fod cyd-ddylunio a chyd-greu o'r math hwn yn cymryd amser, ond rwyf o'r farn bod hwn yn fuddsoddiad angenrheidiol a gwerth chweil i greu'r canlyniad gorau posibl i sefydliadau cydraddoldeb a'r bobl a'r grwpiau y maent yn eu cefnogi.
Bydd mantais ychwanegol i’r amser a'r ymdrech i gyd-gynllunio'r dull gweithredu/rhaglen newydd gan y bydd modd cwblhau'r dull/rhaglen unwaith y bydd mwy o eglurder ynghylch cyllidebau yn y dyfodol. Rwy’n disgwyl i hyn ddigwydd erbyn diwedd 2021.
Rwyf bellach yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau sydd â gwybodaeth a phrofiad o ddarparu cymorth cydraddoldeb strategol yng Nghymru sydd am fod yn rhan o'r broses hon o gyd-greu.
Bydd penderfyniadau pellach am y broses gyd-ddylunio yn cael eu gwneud yn fuan, unwaith y gwyddom beth yw lefel y diddordeb. Rwy’n disgwyl y bydd y gwaith cyd-ddylunio’n cynnwys yr elfennau canlynol:
- Canlyniadau sy'n canolbwyntio ar gefnogi cynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.
- Darpariaeth Cymru gyfan gydag agweddau rhanbarthol a llawr gwlad/profiad byw cryf.
- Cael y cydbwysedd cywir rhwng gweithio rhyngadrannol/mewn partneriaeth a chymorth arbenigol â ffocws ar gyfer grwpiau a materion penodol.
- Mae blaenoriaethau'n debygol o gynnwys: cymorth ac ymgysylltiad ag arweinwyr polisi i gyd-lunio/gwerthuso rhaglenni newydd a hen raglenni; eiriolaeth; dileu rhwystrau; cyfeirio at gymorth; codi ymwybyddiaeth; chwyddo lleisiau; atal ac amddiffyn; annog cyfranogiad; dathlu a hyrwyddo llwyddiant; mynd i'r afael â thangynrychiolaeth.
- Yn y pen draw, rydym yn disgwyl i'r rhaglen gynnwys cyfuniad o gyllid sy’n cefnogi ein amcanion strategol, ynghyd â chyllid trwy grantiau llai tymor byr.
Rwy’n rhagweld mai rhan bwysig iawn o'r broses hon fydd sicrhau'r cysylltiadau gorau posibl â darpariaeth berthnasol arall, megis ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, rhaglenni Allgymorth Iechyd, Cymorth Trydydd Sector Cymru a chymorth arall. Rwy’n gwybod y bydd adnoddau'n gyfyngedig ac felly rhaid inni sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian a gweithredu cydgysylltiedig.
Y nod o hyd yw i'r rhaglen newydd ddechrau o fis Ebrill 2022. Erbyn hynny disgwyliwn i'r fframwaith cyffredinol fod yn glir er ein bod nawr yn disgwyl iddo gymryd ychydig yn hwy cyn i'r rhaglen gyfan ddod yn weithredol.
Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd y rhaglen bresennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022 ac ni chaiff ei hymestyn ymhellach. Fodd bynnag, byddwn yn cynnal trafodaethau pellach gyda phob un o'r sefydliadau sy'n derbyn cyllid ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a oes unrhyw elfennau o'r rhaglen bresennol lle y gallai fod yn briodol ystyried trefniadau pontio i gefnogi trosglwyddo i'r rhaglen newydd o fis Ebrill 2022.