Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Gweinidog dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd myfyrwyr o'r UE sy'n bwriadu astudio yng Nghymru yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21 yn gymwys i'r un ffioedd dysgu â myfyrwyr Cymru, a byddant yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau o Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd sydd eisoes yn cael eu defnyddio.

Mae'r penderfyniad hwn yn parhau â'r polisi cyfredol a bydd myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth hyd nes y gorffennant eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i bob opsiwn cyllid sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i fyfyrwyr yng Nghymru y mae myfyrwyr o'r UE yn gymwys i'w gael. Mae'n cynnwys benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu (i'r rheini sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ers tair blynedd), benthyciadau a grantiau cynhaliaeth (sydd ond ar gael i'r rheini sy'n byw yn y DU ers o leiaf tair blynedd), a rhai grantiau a lwfansau eraill.

Nid yw'r rheolau ar gyfer myfyrwyr o'r UE a fydd yn gwneud cais am le mewn prifysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 i ddilyn cwrs lle rhoddir cymorth i'r myfyrwyr wedi newid. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn asesu'r ceisiadau hyn ar sail y meini prawf cymhwysedd, ac yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd myfyrwyr o'r UE, neu aelodau o'u teuluoedd, yr asesir eu bod yn gymwys i gael grantiau a/neu fenthyciadau yn parhau'n gymwys tra byddant yn astudio ar y cwrs hwnnw.

Dylai myfyrwyr ymgynghori â swyddfa cyllid myfyrwyr eu prifysgol, neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael.