Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae dros £6 miliwn o gyllid Buddsoddi i Arbed wedi’i gymeradwyo i’w ddyrannu o dan gylch diweddaraf y gronfa.

Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i drosglwyddo i ddulliau mwy effeithlon, mwy effeithiol a mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau ac yn eu helpu i wynebu her setliad anodd.

Bydd y dyraniad cyllid diweddaraf yn cefnogi prosiectau sy’n annog sefydliadau i gydweithio oddi fewn a rhwng sectorau. Bydd hefyd yn datblygu’r agenda effeithlonrwydd ac arloesi drwy gefnogi prosiectau arloesol sy’n trawsnewid y modd y darperir gwasanaethau. Yn ogystal, bydd y cyllid yn annog sefydliadau i rannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.

Bydd y Gronfa’n darparu’r canlynol:

  • £3 miliwn i alluogi chwe sefydliad yng Ngogledd Cymru (Cynghorau Conwy, Wrecsam a Sir y Fflint; Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr) i ymuno â Rhwydwaith Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus. Bydd £2 filiwn ychwanegol ar gael i lywodraeth leol yn y de/de-orllewin (Ceredigion, Sir Benfro, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd) i wella cysylltedd. Bydd buddsoddi yn y rhwydwaith hwn yn darparu cysylltiadau drwy ddefnyddio'r llais, fideo a data ar draws Cymru, a hynny am oddeutu 20% yn llai;
  • £121,000 i helpu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i fuddsoddi mewn pŵer solar fotofoltäig er mwyn defnyddio ynni adnewyddadwy a lleihau ei chostau rhedeg;
  • £263,000 i helpu cyrff amrywiol yn y sector cyhoeddus i arbed miliynau o bunnoedd drwy werthu asedau a lleihau rhwymedigaethau mewn perthynas ag atgyweirio asedau ac ati.
  • £0.5 miliwn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dreialu meddalwedd adnabod llais digidol a fydd yn arbed 30% mewn costau, yn cyflymu'r cyfathrebu rhwng meddygon mewn ysbytai ac ymarferwyr cyffredinol ac yn arwain at wasanaethau gwell i gleifion; a hefyd £125,000 ar gyfer system dreuliau ar y we i’r GIG a fydd yn sicrhau dros £1.2 miliwn o arbedion yn ei phedair blynedd gyntaf ac o leiaf £0.5 miliwn o arbedion bob blwyddyn wedi hynny.

Cyhoeddir cylch arall o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed cyn toriad yr haf.