Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw rwy’n cyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo buddsoddiad o dros £11 miliwn ar gyfer prosiectau newydd i wella gwasanaethau cyhoeddus o dan gylch diweddaraf y Gronfa Buddsoddi i Arbed.
Bydd pecyn cyllid diweddaraf Buddsoddi i Arbed yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n trawsnewid y ddarpariaeth o wasanaethau ac yn arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol. Mae’r pecyn yn cynnwys cyfanswm gwerth £5.148 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer pum prosiect o’r GIG, llywodraeth leol a Chyfoeth Naturiol Cymru a, £5.92 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd gyda’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau i sefydlu Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i Gymru. Mae cyfanswm y dyraniad cyllid yn ystod Cylch VII y gronfa Buddsoddi i Arbed yn dod i £11.068 miliwn.
Mae dyraniadau o’r Gronfa’n cynnwys y canlynol:
- £5,920,000 i ysgogi’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol newydd;
- £3,750,000 i Gyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi’r gwaith o ad-drefnu’r gweithlu yn dilyn uno mudiadau’r amgylchedd,
- £698,000 tuag at raglen Cyngor Sir y Fflint, sef “Sir y Fflint yn Cysylltu” a fydd yn gwella mynediad dinasyddion i wasanaethau’r Cyngor a gwasanaethau eraill y sector cyhoeddus a gwirfoddol yn y Fflint a Chei Conna;
- £354,000 i gefnogi Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan sy’n cyflwyno trefniadau i olrhain eitemau ar gyfer y golch er mwyn lleihau colledion;
- £256,000 i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithredu trefniadau e-amserlennu staff, ac ymestyn y dull arloesol hwn ar gyfer y gweithlu meddygol; a
- £90,000 tuag at sefydlu cydwasanaethau ystadau fferm llywodraeth leol.
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn cefnogi sefydliadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn gwneud y trosglwyddo i ddulliau o gyflenwi gwasanaethau sy’n fwy effeithlon, yn fwy effeithiol ac yn fwy cynaliadwy. Ar y cyd, mae’r prosiectau hyn yn rhagweld arbedion effeithlonrwydd rheolaidd sy’n fwy na £24miliwn erbyn 2015-16.
Mae’r holl brosiectau’n cipio ac yn rhannu eu dysgu a’u harbenigedd. Rwy’n arbennig o falch o nodi bod Cyngor Sir y Fflint, wrth ddatblygu eu cynigion wedi ceisio cyngor gan brosiect Buddsoddi i Arbed tebyg yng Nghasnewydd, sef Canolfan Wyneb yn Wyneb Amlasiantaeth i Gasnewydd (Un Casnewydd). At hynny, bydd prosiect e-amserlennu staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o drefniadau peilot ehangach o’r dull arloesol hwn lle’r wyf eisoes wedi cefnogi mentrau ym Myrddau Iechyd Aneurin Bevan a Hywel Dda.