Dawn Bowden AS, Y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a’r Prif Chwip
Dyma ddiweddariad byr am gyllid asedau segur.
Daeth Deddf Asedau Segur i rym ym mis Chwefror 2022 ac mae’n cynyddu cwmpas y Cynllun Cyfrifon Segur presennol yn sylweddol, gyda'r potensial i ddatgloi tua £880miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer achosion da ledled y DU. Y disgwyl yw y bydd tua £44miliwn ar gael i Gymru dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae'r Ddeddf newydd yn parhau gyda'r gofyniad bod rhaid defnyddio'r cyllid at ddibenion amgylcheddol neu gymdeithasol. Hyd yma, mae £37.7miliwn wedi ei ddyrannu i Gymru trwy'r cynllun Cyfrifon Segur presennol ac wedi ei ddefnyddio i ariannu prosiectau ar weithredu ar newid hinsawdd, i hyffordd pobl ifanc, ac addysg a chyflogaeth. Fe'i dosberthir hefyd yn unol â'r egwyddor ychwanegol: ni ellir defnyddio'r arian yn lle gwariant y llywodraeth.
Nid yw asedau segur yn ffrwd ariannu rheolaidd gwarantedig. Ni ellir rhagweld y llif arian newydd, ac ni ddisgwylir y bydd unrhyw arian newydd yn cael ei ryddhau am sawl blwyddyn.
Ni fydd unrhyw gyllid Asedau Segur newydd ar gael yng Nghymru am rai blynyddoedd ac efallai na fydd y cyfanswm gwerth yn sylweddol. Rydym yn bwriadu ymgynghori ynghylch sut y gellid defnyddio’r cyllid newydd, pan fydd ar gael i Gymru. Byddwn yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ac yn ymgynghori ar y cyfarwyddiadau polisi perthnasol yn ystod hydref 2023.