Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth
Heddiw rwy’n dyrannu cyllid o £15.4 miliwn i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer dulliau teithio llesol yn eu hardal mewn ymateb i argyfwng Covid19 ac i sicrhau newidiadau cynaliadwy o ran ymddygiad teithio yn y dyfodol.
Cawsom gyfanswm o 209 o gynigion ar gyfer mesurau gan bob awdurdod lleol mewn ymateb i’r gwahoddiad am ddatganiadau o ddiddordeb. Mae hyn yn amlwg yn dangos yr angen, a pharodrwydd awdurdodau lleol, i gyflwyno mesurau i warchod iechyd a diogelwch y cyhoedd ac i alluogi pobl i ddewis y dulliau iachaf a mwyaf cynaliadwy o deithio am bellter byrrach nawr ac yn y dyfodol. Yn ystod y cyfyngiadau symud bu cynnydd mawr mewn cerdded a beicio ymhlith unigolion a theuluoedd, ar gyfer ymarfer corff ac i wneud teithiau angenrheidiol. Mae angen inni bellach weithredu i gynnal y dulliau yma o deithio sy’n ystyried yr hinsawdd, ac i osgoi dychwelyd at ddewisiadau teithio sy’n ddibynnol iawn ar geir.
Ymhlith y mesurau amrywiol sy’n cael eu cynllunio ar lefel leol, rwyf wedi gofyn i awdurdodau lleol flaenoriaethu’n glir y broses o gyflawni’r cynlluniau y gellir eu cwblhau o fewn y tri i bedwar mis nesaf ac sy’n cael yr effaith fwyaf ar eu hardal leol.
Mae £2 filiwn o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer cynlluniau ger ysgolion. Gyda plant yn dechrau dychwelyd i ysgolion yn yr wythnosau nesaf, mae’n bwysig galluogi plant, boed ar eu pennau eu hunain neu gyda chwmni, i gerdded neu feicio yn ddiogel i’r ysgol a chadw pellter cymdeithasol wrth gyrraedd gatiau’r ysgol er mwyn creu arferion teithio llesol gydol eu hoes.
Bydd y cyllid sy’n cael ei ddyrannu heddiw yn gwella amodau i gerddwyr a beicwyr mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yn Sir Gaerfyrddin er enghraifft, rydym yn ariannu pecyn o fesurau i hyrwyddo teithio llesol tra’n hwyluso pellter cymdeithasol mewn trefi gwledig yn benodol. Mae hyn yn cynnwys uwchraddio llwybrau troed, dangos y ffordd a chodi arwyddion at y llwybrau sy’n caniatáu cynnal y pellter cymdeithasol gorau. Mae hefyd yn cynnwys ail-drefnu ffyrdd i sicrhau mwy o le ar lwybrau troed ac i wella diogelwch/capasiti i feicwyr. Yn Sir Ddinbych, rydym yn ariannu mesurau yng nghanol tref Y Rhyl i ddileu dros dro rai lleoedd i barcio ar y stryd, er mwyn rhoi lle i gerdded a beicio yn ddiogel. Bydd hyn hefyd yn creu llwybrau teithio llesol di-draffig i’r prif gyrchfannau o fewn y dref.
O ystyried yr angen i weithredu’r newidiadau yn gyflym i gefnogi’r camau sy’n rhaid inni eu cymryd yn ystod y cyfnod o adferiad o Covid, bydd awdurdodau lleol yn cael rhagor o amser i ddatblygu rhai o’u cynigion yn llawn, i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb y mesurau arfaethedig ac i drafod yn adeiladol gyda’r grwpiau yr effeithir arnynt. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym gymaint o gyfleoedd â phosibl o’r buddsoddiadau yr ydym wedi’u cynllunio ac i ofalu am anghenion grwpiau bregus o fewn ein cymunedau.
Bydd disgwyl i awdurdodau lleol hefyd fonitro effaith y mesurau y maent yn eu sefydlu, a, ble y bo angen, wneud newidiadau. Gallant ddefnyddio hyd at 5% o’u dyraniad i wneud hynny yn ogystal â hyrwyddo a hysbysu’r newidiadau sy’n cael eu gwneud ac annog teithiau ar droed ac ar feic.
Mewn cydweithrediad â’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ein bwriad yw gwneud camau dilynol wedi’r gyfran hon, a sicrhau bod rhagor o gyllid ar gael ble y mae ei angen. Byddwn yn gweithio’n broactif gydag awdurdodau lleol i ddatblygu ymyraethau pellach, uchelgeisiol fel rhan o’r rhaglen Trawsnewid Trefi.
Bydd rhestr lawn o gynlluniau llwyddiannus gan awdurdodau lleol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar y ddolen hon https://llyw.cymru/mesurau-trafnidiaeth-cynaliadwy-cynghorau-lleol-dyrannu-cyllid