Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwy’n ysgrifennu at holl awdurdodau lleol Cymru heddiw i’w gwahodd i fynegi diddordeb mewn cyflwyno camau dros dro i wella diogelwch ac amodau wrth i bobl deithio mewn ffyrdd cynaliadwy a llesol yn eu hardaloedd.
Byddwn yn sicrhau bod arian grant ar gael i ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu ym maes trafnidiaeth yn sgil yr argyfwng Covid-19.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweld newidiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen ac mae’r newidiadau hynny’n cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau, gan effeithio’n benodol ar bob un o’r dulliau teithio. Ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu gosod, rydym wedi gweld gostyngiadau mawr mewn traffig modurol ar bob rhan o’r rhwydwaith ffyrdd, llawer llai yn defnyddio’r bysiau a’r trenau a mwy o gerdded a beicio, ar gyfer teithiau hanfodol a hefyd ar gyfer ymarfer corff dyddiol. Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gweithio o bellter sydd wedi dangos nad oes angen i ni gyd deithio pellteroedd mawr at ddibenion gwaith, ac rydyn ni eisiau cynnal hyn wrth i ni ganfod normal newydd. Er lles yr aer a anadlwn ac er lles hinsawdd y byd ac iechyd y cyhoedd, mae angen inni geisio cynnal y newid hwn ac osgoi mynd yn ôl i batrymau teithio cyn Covid.
Gyda’n cymorth ni, rydym am weld awdurdodau lleol Cymru yn dilyn esiampl trefi a dinasoedd ledled y byd, ac yn gweithredu i gyrraedd y nod hwnnw. Ni ddylai’r mesurau hyn fod wedi’u cyfyngu i ardaloedd mawr trefol, gan fod yr un egwyddorion yn berthnasol i drefi llai ac ardaloedd gwledig. Rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ar draws Cymru fynegi diddordeb mewn cyflwyno mesurau i sicrhau bod ffyrdd cynaliadwy o deithio yn ddiogel ac yn ddibynadwy yn ystod yr argyfwng Covid-19, ac ar ôl iddo ddod i ben. Rydym am weld mesurau creadigol, isel eu cost, a fydd yn cael effaith fawr ac y bydd modd eu datblygu a’u cyflwyno’n gyflym, yn ogystal â mesurau eraill sy’n lleihau effaith teithio mewn ceir a dibyniaeth arnynt.
Mae dau brif reswm dros ofyn i’r awdurdodau weithredu:
Yn gyntaf, rydym am warchod iechyd a diogelwch y cyhoedd. Disgwylir y bydd angen i bobl gadw pellter cymdeithasol am fisoedd lawer i ddod. Yn aml, mae’r lle sydd ar gael ar lwybrau troed a llwybrau cyd-ddefnyddio yn gwbl annigonol i bobl fedru cadw digon o bellter rhyngddynt wrth fynd heibio i’w gilydd yn ddiogel. Mae ciwiau y tu allan i siopau ac mewn safleoedd bysiau hefyd yn ychwanegu at y pwysau sydd ar y lle hwnnw. Yn aml, felly, mae’n rhaid i gerddwyr a beicwyr gamu i’r gerbytffordd neu seiclo arni er mwyn osgoi bod yn rhy agos at bobl eraill wrth fynd heibio. Er bod hynny, ar y cyfan, yn bosibl ar hyn o bryd ar adeg pan mae llai o draffig, mae eisoes yn peri problemau i lawer o bobl, er enghraifft, pobl sydd ag anawsterau symud neu blant ifanc, a bydd yn beryglus iawn pan fydd y traffig yn cynyddu unwaith eto.
Yn ail, rydym am fynd i’r afael â’r cynnydd posibl yn y defnydd o geir. Mae cryn ansicrwydd ynglŷn â pha mor barod fydd y cyhoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus unwaith y bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio. Mae tystiolaeth eisoes o Tsieina sy’n dangos bod llawer llai yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a llawer mwy yn defnyddio’r car. Os na fyddwn yn gweithredu, mae cryn risg, felly, y byddwn yn gweld canran hyd yn oed yn uwch o deithiau’n cael eu gwneud yn y car yng Nghymru yn y dyfodol. Byddai hyn yn amlwg yn mynd yn groes i’r cyfeiriad polisi yr ydym am ei gyflawni ar draws y Llywodraeth ac yn arwain at effeithiau negyddol i bobl, y gymdeithas a’r amgylchedd. Mae angen inni, felly, fanteisio ar y gostyngiadau presennol er mwyn creu amodau a fydd yn golygu y bydd modd teithio mewn ffyrdd diogel, iachus a chyfleus heb ddefnyddio’r car.
Rydym, felly, yn gwahodd yr awdurdodau lleol i fynegi diddordeb cychwynnol mewn cael cyllid i gyflwyno mesurau ‘yn ôl y gofyn’ sy’n galluogi cadw pellter cymdeithasol. Gall y mesurau hynny gynnwys cynlluniau i ledaenu llwybrau troed, lonydd beicio dros dro, cyfyngiadau cyflymder, a gwella seilwaith bysiau i alluogi pobl i gadw pellter.
Wrth gyflwyno camau i wella darpariaeth ar gyfer cerdded a beicio, dylid rhoi blaenoriaeth i lwybrau sy’n rhan o rwydweithiau teithio llesol, yn enwedig llwybrau i ysgolion. Mae’n debyg mai pecyn yn cyfuno camau gwahanol fyddai’n fwyaf effeithiol. Disgwylir i’r rhan fwyaf o’r camau hyn fod yn rhai dros dro neu arbrofol. Fodd bynnag, dylid eu cyflwyno’n barhaol os byddant yn effeithiol.
Rydym yn gofyn i awdurdodau lleol fynegi diddordeb cychwynnol erbyn 21 Mai er mwyn inni gael amcan o faint o gyllid y bydd ei angen. Byddwn yna yn gofyn am wybodaeth ychwanegol yn ôl y gofyn er mwyn inni gael ystyried mwy ar y cynigion. Rydym yn rhagweld y bydd y mesurau’n cael eu cyflwyno o ddechrau’r haf ymlaen.