Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddais fy mhenderfyniad i ddarparu Truvada® ac i gynnal astudiaeth dair-blynedd Cymru gyfan at ei ddefnyddio fel rhan o wasanaeth ehangach i atal HIV. Bydd yr astudiaeth yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2017 fan bellaf. Yn ystod yr astudiaeth dair-blynedd bydd Truvada® ar gael ledled Cymru ym mhob achos pan fo’n briodol yn glinigol. Darparaf fwy o fanylion cyn i’r astudiaeth gychwyn.

Hoffwn ddiolch i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) am eu hystyriaeth ofalus o Truvada® i’w ddefnyddio at broffylacsis cyn-gysylltiad i leihau’r perygl o ddal HIV drwy ryw o blith oedolion yn y perygl mwyaf o’i ddal. Grŵp arbenigol, annibynnol yw AWMSG, wedi ei gydnabod a’i achredu. Mae’n rhaid i mi gydnabod eu cyngor bod gormod o ansicrwydd o ran lefelau cost-effeithiolrwydd, sy’n golygu nad ydynt wedi ei argymell i’w ddefnyddio fel rheol yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r broses arfarnu yn cynnwys cyfnod adolygu 10-niwrnod i ganiatáu i gwmni ofyn i AWMSG ailystyried eu penderfyniad. Rwy’n cymryd y cam unigryw o wneud y cyhoeddiad hwn cyn i gyfnod adolygu’r AWMSG ddod i ben am fy mod yn cydnabod bod cefnogaeth glinigol arwyddocaol i ddarparu Truvada®. Yr un mor bwysig yw’r ffaith bod tystiolaeth glir a gefnogir gan Sefydliad Iechyd y Byd bod Truvada® yn lleihau cyfraddau heintio HIV o’i ddefnyddio yn gywir ac â chefnogaeth gwasanaethau iechyd rhywiol ataliol, ehangach. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod lleihau’r cyfraddau heintio yn fodd i warchod y gymdeithas ehangach drwy leihau trosglwyddo HIV yn gyffredinol.

Ar sail foesegol credaf ei bod yn bwysig darparu Truvada® pan fo’n briodol yn glinigol. Wrth reswm, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu targedu yn effeithiol. Dylai’r astudiaeth helpu mynd i’r afael â’r ansicrwydd a nodwyd gan AWMSG o ran cyfraddau nifer achosion HIV yng Nghymru, o ran unigolion yn cadw at y drefn drin ac effaith hyn oll ar leihau’r cyfraddau heintio.