Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y mae y Datganiad Ysgrifenedig hwn yn cywiro gwall yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 7 Chwefror ag amlinellodd newidiadau i Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS y DU).

Ar 30 Ionawr 2025, cyhoeddodd Awdurdod ETS y DU (sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), ymateb i Ymgynghoriad Technegol a Gweithredol  Awdurdod yr ETS Medi 2024  (O hyn ymlaen: Technegol a Gweithredol).

Yn ogystal â hynny, ar 12 Chwefror 2025, nid 5 Chwefror fel y mynegais yn wreiddiol, bydd "Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2025" (o hyn ymlaen: y Gorchymyn) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd, a fydd yn caniatáu ar gyfer y newidiadau hyn. Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi ar waith y newidiadau a gadarnhawyd yn Ymateb yr Awdurdod i'r Ymgynghoriad ar Symud Ail Gyfnod Dyraniadau am Ddim Awdurdod yr ETS, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024.

Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Awdurdod ETS y DU ymgynghoriad technegol a gweithredol wedi'i dargedu a oedd yn cynnig tri gwelliant technegol i'r cynllun. Y cyntaf oedd ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod ETS y DU gyhoeddi manylion yr holl drosglwyddiadau lwfansau rhwng cyfrifon yng Nghofrestrfa ETS y DU (ac eithrio'r rhai rhwng cyfrifon Awdurdod ETS y DU) bob blwyddyn, ar ôl oedi o dair blynedd. Yr ail gynnig oedd gwneud rhannu data ETS y DU rhwng adrannau'r llywodraeth a chyda'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn bosibl at ddibenion datblygu polisi. Roedd y cynnig terfynol yn gysylltiedig ag elfen allyrwyr bach iawn (USE) y cynllun, sy'n cynnwys allyrwyr gyda llai na 2,500t CO2e o allyriadau blynyddol. Ar hyn o bryd, rhaid i weithgaredd rheoledig ddechrau ar neu cyn 1 Ionawr 2021 i fod yn gymwys i gael statws USE ar gyfer cyfnod 2026-2030 y cynllun. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwygio hyn er mwyn caniatáu i weithredwyr a ddechreuodd weithredu rhwng 2 Ionawr 2021 a 1 Ionawr 2024 wneud cais am statws USE ar gyfer y cyfnod 2026-2030. 

Yn bennaf, roedd ymatebion rhanddeiliaid o blaid, gyda rhywfaint o anghytuno ynghylch agweddau penodol ar y cynigion oherwydd pryderon ynghylch sensitifrwydd data masnachol, ac a oedd cytundeb peidio â datgelu yn ddigonol i ddiogelu gwybodaeth ETS y DU. Fodd bynnag, bydd trothwy uchel ar gyfer rhannu data a bydd prosesau eraill, fel anonymeiddio'r data lle bo hynny'n briodol, ar waith i helpu i liniaru'r pryderon hyn. Yn gyffredinol, bydd y newidiadau hyn yn cyfrannu at ddatblygu gwell polisi ar draws y Llywodraeth a byddant yn lleihau'r baich gweinyddol ar (y rhai sy'n debygol o fod yn) fusnesau bach. Mae'r Ymateb felly'n cadarnhau bwriad yr Awdurdod i symud ymlaen gyda'r newidiadau.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi newidiadau ar waith sy'n ymwneud â chyfnodau dyrannu ar gyfer dyrannu lwfansau am ddim yn y cynllun. Fel y cyhoeddwyd yn Ymateb yr Awdurdod -  Cynllun Masnachu Allyriadau y DU: Symud Ail Gyfnod Dyrannu am Ddim ETS y DU ym mis Rhagfyr 2024, mae Awdurdod ETS y DU wedi cadarnhau'r bwriad i oedi cyn gwneud newidiadau i bolisi dyrannu am ddim o'r flwyddyn darged gychwynnol 2026, i 2027. Lwfansau ETS y DU yw'r dyraniadau am ddim, sy'n cael eu darparu am ddim i ddiwydiannau sy'n wynebu cystadleuaeth yn fyd-eang gan gystadleuwyr mewn gwledydd sydd â pholisïau lliniaru newid hinsawdd gwannach (canlyniad negyddol a elwir yn ddadleoli carbon). Ar hyn o bryd, dyraniadau am ddim yw'r prif ysgogiad polisi wrth liniaru dadleoli carbon, ac mae'r newidiadau'n cael eu gwneud i dargedu dyraniadau yn well yng nghyd-destun y DU.

Argymhellwyd yr oedi i'r newidiadau gan y byddai'n rhoi amser ychwanegol i ystyried barn rhanddeiliaid a datblygu polisi yn ofalus mewn maes cymhleth a heriol, yn ogystal ag alinio unrhyw newidiadau i bolisi dyraniadau am ddim gyda chynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon (CBAM) yn 2027. 

Trwy ETS y DU, mae'n rhaid i ni annog datgarboneiddio mewn ffordd nad yw'n rhoi diwydiant Cymru o dan anfantais, ac sy'n cefnogi llwybrau datgarboneiddio'r diwydiant i fyd sero net. Mae'r cyhoeddiadau y cyfeirir atynt a'r Gorchymyn diwygio yn gam nesaf hanfodol wrth wella'r broses o lunio polisïau trwy rannu data'n well ac ymagwedd fwy ystyriol tuag at ddyraniadau am ddim o fewn ETS y DU.