Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) y DU (sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), wedi cyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU y tu hwnt i 2030. 

Mae ETS y DU wedi'i gynllunio i weithredu ar gyfres o gamau. Cyfnod o amser yw cam, a ddiffinnir yn y ddeddfwriaeth, y mae'r cap ar allyriadau wedi'i osod drosto a bydd fframwaith cyffredinol y Cynllun yn aros yr un fath yn fras. Ar hyn o bryd, mae'r Cynllun wedi'i ddeddfu ar gyfer Cam I, sy'n rhedeg o 1 Ionawr 2021 i 31 Rhagfyr 2030. Heb weithredu pellach, bydd y cynllun yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2030. Felly, er mwyn sicrhau bod ETS y DU yn parhau i weithredu ar ôl 2030, byddai angen sefydlu Cam II ar gyfer y blynyddoedd ar ôl 2030 mewn deddfwriaeth. 

Mae'r "Ymgynghoriad i ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau y DU y tu hwnt i 2030" yn cynnig ymestyn ETS y DU i ail gam o 1 Ionawr 2031 ymlaen. Mae hefyd yn gofyn am farn ar hyd arfaethedig ail gam. Mae'r cyfnod presennol – Cam I - yn rhychwantu 10 mlynedd. Wrth ystyried opsiynau o safbwynt hyd y cam, mae'n bwysig cael cydbwysedd rhwng rhoi eglurder i gyfranogwyr ar gap allyriadau ETS y DU, a sicrhau llwybrau allyriadau dibynadwy ar gyfer gosod capiau. Yn ogystal â hynny, mae'n ceisio barn ynghylch a ddylid caniatáu bancio lwfansau allyriadau rhwng Cam I a Cham II. Mae bancio yn cyfeirio at yr arfer o gadw lwfansau a brynwyd yn ystod un cam o Gynllun Masnachu Allyriadau y DU i'w defnyddio neu eu masnachu yn ddiweddarach.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli'r cam cyntaf yn ystyriaeth Awdurdod ETS y DU o ymestyn y Cynllun, gyda'r cam nesaf yn cynnwys asesu nifer y lwfansau a fyddai ar gael yn ystod Cam II. Bydd hyn yn amodol ar ymgynghoriad pellach, a byddaf yn darparu diweddariad ar ei gyfer maes o law.

Mae ETS y DU yn ysgogiad polisi allweddol, gan yrru gwaith datgarboneiddio ledled Cymru a'r DU, annog buddsoddiad, lleihau allyriadau, a helpu i sicrhau dyfodol gwydn a chynaliadwy i Gymru. Bydd ymestyn y cynllun yn ei alluogi i barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni datgarboneiddio sy'n effeithlon yn economaidd, a chyflawni ein targed sero net sy'n rhwymo mewn cyfraith, ein nodau dros dro, a chyllidebau carbon yn y dyfodol - yng Nghymru ac ar draws y DU.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 8 wythnos, tan 9 Ebrill. Rwy'n disgwyl y byddaf yn ysgrifennu eto ynglŷn â chanlyniad yr ymgynghoriad yn ystod y misoedd nesaf. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'w hysbysu o'r ymgynghoriad hwn.