Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 4 Mehefin 2015, fe lansiais ymgynghoriad am y ‘Fframwaith Strategol ar gyfer Amaethyddiaeth’ a hynny yng Nghynhadledd Amaethyddol Flynyddol Cymru. Cafodd yr argymhellion oedd yn y ddogfen eu datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, CLA Cymru, Cymdeithas Ffermwyr Tenant, Hybu Cig Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a’r Ganolfan Ddatblygu Llaeth. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am syniadau i greu diwydiant amaethyddol ffyniannus a chydnerth er mwyn hybu lles Cymru, nawr ac yn y dyfodol.

Ymatebodd 44 o unigolion a sefydliadau i’r ymgynghoriad. Mae’r gwaith o’u dadansoddi bellach ar ben ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y rhan fwyaf o’r ymatebion a ddaeth i law o blaid y weledigaeth a amlinellwyd yn y Gynhadledd Amaethyddol. Roedd yr ymatebwyr yn gryf o blaid datblygu’r ymgynghoriad ar y cyd a’r ffordd y byddwn yn cydweithio yn y dyfodol i gyflawni’r weledigaeth hon.

Os ydym ni am wireddu ein gweledigaeth ar gyfer sector amaethyddol Cymru, mae gweithio mewn partneriaeth yn flaenoriaeth. Yn hyn o beth, rwyf wedi gwahodd cyrff o’r diwydiant i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sefydlu grŵp partneriaeth er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon a symud y gwaith pwysig hwn yn ei flaen, er lles pawb. Ar hyn o bryd, mae aelodau’r grŵp partneriaeth yn cynrychioli sefydliadau fu’n ymwneud â datblygu’r ymgynghoriad. Bydd y grŵp hwn yn enghraifft ragorol o gydweithio ac mae wedi ethol cadeirydd annibynnol. Pleser o’r mwyaf i mi yw cael cyhoeddi mai Kevin Roberts oedd dewis unfrydol yr aelodau ar gyfer y swydd. Yn flaenorol, Kevin oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr NFU a chyn hynny, ef oedd Prif Weithredwr y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth. Hefyd, yn 2014, cynhaliodd Adolygiad Annibynnol ar Gydnerthedd Ffermio yng Nghymru. Bydd y profiad a’r cysylltiadau sydd ganddo ef yn amhrisiadwy i’r grŵp.

Y grŵp, o dan gadeiryddiaeth Kevin Roberts, fydd yn arwain y gwaith o sefydlu fframwaith i wireddu ein gweledigaeth gyffredinol (gweler uchod). Byddan nhw’n datblygu camau gweithredu ac yn eu rhoi ar waith yn ogystal â phwyso a mesur yn ofalus adolygiadau ac argymhellion presennol y diwydiant. Byddan nhw’n cyhoeddi ac yn cynnal blaenoriaethau strategol, cynnal cynlluniau cyflawni lefel uchel; byddan nhw’n cynnal rhaglen waith barhaus ac yn canolbwyntio ar gamau all gael effaith bositif ar y diwydiant. Drwy sicrhau bod y diwydiant yn cyfathrebu, cydweithio a chydgysylltu’n well, byddan nhw’n annog ysbryd entrepreneuraidd, fodern ymysg y diwydiant. Bydd y grŵp newydd yn creu cysylltiadau rhwng eu gwaith a’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn ei wneud â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid a grŵp Cyfeirio Strategol Rheoli Adnoddau Naturiol. Er mwyn cyfrannu at weledigaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru, sef creu twf cynaliadwy i sector bwyd-amaeth Cymru, bydd y grŵp yn cyflawni camau gweithredu’r grwpiau hyn.

Yn y lle cyntaf, bydd y grŵp partneriaeth yn cwrdd bob mis ac ar amseroedd priodol wedi hynny. Eu cylch gwaith fydd llunio adroddiad cynnydd ar gyfer y Gynhadledd Amaethyddol Flynyddol nesaf. Yn y cyfamser, rwy’n annog y rheini ohonoch sydd â rhan uniongyrchol neu anuniongyrchol yn y diwydiant i helpu’r grŵp i gyflawni’r weledigaeth hon ac i greu dyfodol bywiog iachus a ffyniannus i sector amaethyddol Cymru.