Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw rydym yn lansio ein hail Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd yn cwmpasu’r cyfnod tan ddiwedd y weinyddiaeth hon yn 2026. Mae ymrwymiad i fynd i'r afael â gwreiddyn y broblem yn ogystal â’r effaith yn ei nodweddu.
Mae'r strategaeth hon yn gyfle i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector gymryd camau i fynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhywiol a chasineb at fenywod yn uniongyrchol.
Mae uchelgais wrth wraidd y strategaeth hon. Er bod camau gweithredu ac ymyriadau llwyddiannus rydym am barhau â nhw, rydym wedi diffinio blaenoriaethau a dulliau gweithredu newydd er mwyn ehangu a chyflymu ein hymateb, ac ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ffordd gyfannol.
Gosododd ein Rhaglen Lywodraethu ein hamcan llesiant i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb ar ei holl ffurfiau. Bydd y strategaeth hon a'r gwaith a fydd yn dilyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i hyn ac i'n gweledigaeth ni oll i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Rhaid i ni herio normau, agweddau a chredoau cymdeithas, oherwydd y pethau hyn sy'n cynnal, esgusodi a chyfiawnhau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Efallai na fyddwn yn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod oes y strategaeth hon, ond drwy anelu’n uchel, mae’n bosibl iawn y gwnawn ni gyflawni ein nod o sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw, tanseilio'r amgylchedd y mae cam-drin domestig yn digwydd ynddo a dadnormaleiddio aflonyddu a thrais rhywiol, a'r ymddygiadau sy'n eu galluogi, ym mhob rhan o'n cymdeithas.
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae gennym bob hawl i fod yn falch o’n record: o'r awdurdodau cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino i greu awyrgylch lle y caiff trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei herio; o'r partneriaid cyflawni sy'n cynnig cefnogaeth drwy wasanaethau ymatebol sy'n seiliedig ar werthoedd; ac o'r goroeswyr sydd wedi codi eu llais a rhannu eu safbwyntiau er mwyn helpu eraill drwy lywio'r ffordd yr ydym ni, fel cyrff datganoledig ac annatganoledig, yn gwella gyda’n gilydd.
Strategaeth ar gyfer Cymru gyfan yw hon, sy'n diffinio ac yn arwain y ffordd ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n dibynnu ar gydweithredu, un o nodweddion allweddol ein ffordd o weithio o dan Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gwelir y dull ataliol o weithio yn y ffordd y mae'r camau gweithredu yn y cynllun yn ceisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’n strategaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus a'r trydydd sector, sy’n nodi blaenoriaethau i greu ymdeimlad cyffredin o ymdrechu tuag at weledigaeth a rennir a bydd yn cyfrannu at ein nodau llesiant cyfunol, yn arbennig Cymru fwy cyfartal a Chymru iachach. Mae hefyd yn strategaeth ar gyfer byd busnes a chymdeithas yn ehangach, er mwyn gwneud y newidiadau i normau, ymddygiadau a diwylliannau sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau. Nod y strategaeth hon yw rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac felly mae'n rhaid mabwysiadu dull gweithredu amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol sy'n rhoi lle canolog i leisiau arbenigwyr, dioddefwyr a goroeswyr.
Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn her gymhleth, sy'n cwmpasu sawl elfen a chwestiwn, ynghyd â’u hachos a’u heffaith ar oroeswyr a'u teuluoedd, camdrinwyr a'r cyrff hynny sydd o dan ddyletswydd gyfreithiol neu foesol i weithredu. Dim ond os bydd pawb yn teimlo perchenogaeth dros y strategaeth ac ymrwymiad i’r gydymdrech sydd ei hangen er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon y gall ein dull gweithredu Cymru gyfan fod yn effeithiol.
Bydd arweinyddiaeth ar bob lefel ac ym mhob rhan o'r system yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn ddogfen fyw: arweinyddiaeth gan wleidyddion ac arweinwyr ar bob lefel mewn gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, goroeswyr a rhannau ehangach o'r gymdeithas ddinesig, arweinwyr ym maes busnes, y sector gofal ac addysg ac unigolion, sy'n ysgwyddo’r cyfrifoldeb i gael eu grymuso a'u cefnogi i arwain y newid sydd ei angen arnom mewn cymdeithas, i herio ac addysgu.
Caiff y Strategaeth ei gweithredu drwy ddull glasbrint amlasiantaethol a oruchwylir gan y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd y byddaf yn ei gadeirio ar y cyd â'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn. Bydd cyfraniad goroeswyr yn elfen annatod o strwythur y glasbrint i graffu ar gamau gweithredu a phenderfyniadau wrth i'r dull newydd esblygu.