Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gen i heddiw gyhoeddi Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru).

Mae’r Papur Gwyn yn disgrifio’n cynlluniau ar gyfer y newid mwyaf mewn polisi amaeth a fu efallai ers degawdau. Mae’n esbonio’n bwriadau ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol gan baratoi’r ffordd i ni gyflwyno Bil Amaeth (Cymru) yn nhymor nesa’r Senedd.

Roedd ein hymgynghoriadau, Brexit a’n Tir a Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, yn disgrifio’n cynigion ar gyfer polisi a chymorth amaeth ar gyfer y dyfodol.  Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriadau hynny.  Mae cyfraniad amrywiaeth eang o randdeiliaid wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer llywio a chaboli’r polisi.  Y Papur Gwyn hwn yw cam nesaf y broses ymgynghori a byddaf yn awyddus i glywed eich barn am ein cynigion.

Mae’r sector amaeth yn rheng flaen yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol.  O gofio hefyd y bydd y DU yn wynebu amodau masnachol lawer anoddach ar ôl cyfnod pontio’r UE, mae angen golwg newydd ar bolisi amaeth a’r cymorth a roddir yn y dyfodol er mwyn gallu sicrhau’r newid sydd ei angen.

Mae gan ffermwyr Cymru le unigryw yn ein cymdeithas ac maen nhw’n cael eu cydnabod am eu rhan fel cynhyrchwyr bwyd diogel o ansawdd uchel. Mae angen i ni barhau i’w cefnogi gan gydnabod bod ffermio cystadleuol, cynhyrchu bwyd a chryfhau’r amgylchedd yn agendâu sy’n ategu’i gilydd.

Gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio system gymorth sy’n seiliedig ar egwyddor Rheoli Tir yn Gynaliadwy.  Mae’r Papur Gwyn yn cadarnhau mai Rheoli Tir yn Gynaliadwy fydd y fframwaith fydd yn sylfaen ar gyfer ein polisi a’n cymorth ar gyfer y dyfodol, er mwyn i genedlaethau ffermwyr heddiw a’r dyfodol allu cael eu gwobrwyo am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac am gyfrannu at iechyd a lles ein cenedl.   Trwy Reoli Tir yn Gynaliadwy, bydd y Llywodraeth a ffermwyr yn gallu gweithio gyda’i gilydd i sicrhau ffermydd a busnesau ffermio sy’n gadarn o safbwynt amgylcheddol ac economaidd.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig dod â’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau amaeth-amgylcheddol eraill yr UE i ben a sefydlu cynllun cymorth uniongyrchol sengl yn eu lle. Bydd y cynllun rydym yn ei gynnig, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn gwobrwyo ffermwyr yn briodol am gynhyrchu nwyddau nad oes marchnad iddynt (gwella pridd, aer glân, dŵr glân, cynyddu bioamrywiaeth, gweithredu i arafu twymo’r ddaear) ar lefelau uwch na’r hyn a bennir gan reoliadau, hynny trwy reoli tir mewn ffordd gynaliadwy.  Bydd hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i ffermwyr a busnesau fferm.

Er mwyn diogelu’r amgylchedd a’r cyfalaf naturiol rydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw ac er mwyn cynnal safonau Cymru, mae’n bwysig bod gennym reoliadau priodol sy’n gymesur ac effeithiol.  Rydym am wneud y rheoliadau’n fwy effeithiol a gwella profiad pobl ohonyn nhw.  Mae’r Papur Gwyn felly’n cynnwys cynigion ar gyfer diwygio rheoliadau amaethyddol yng Nghymru.  I symleiddio’r drefn reoleiddio, rwy’n cynnig dod â’r clytwaith o reoliadau amaethyddol ynghyd i greu set o Safonau Gofynnol Cenedlaethol, i’w gwneud yn haws i ffermwyr ddeall y gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â nhw.  Rydym ni’n cynnig y dylai pob ffermwr yng Nghymru gadw at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn, gyda chyngor ac arweiniad i’w helpu.

Mae’n bwysig rhoi’r rheoliadau ar waith yn gyson ledled Cymru, eu monitro’n effeithiol a’u gorfodi mewn ffordd gymesur.  Rwyf am ddefnyddio cyngor ac arweiniad clir gymaint ag y medrir i annog ffermwyr i gydymffurfio â’r rheoliadau.  Hefyd, rwyf am osgoi troi ffermwyr yn droseddwyr yn ddiangen a sicrhau yr un pryd drefn orfodi gymesur fydd yn anogaeth i ffermwyr i gadw at y rheoliadau.  Rwyf felly’n cyflwyno mecanweithiau gorfodi newydd fydd yn defnyddio sancsiynau sifil, i sicrhau bod rheoleiddwyr yn gallu rhoi’r gosb briodol gan ddibynnu ar yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys, er enghraifft, difrifoldeb y tramgwydd.

Rwy’n sylweddoli ein bod yn cynnig newid mawr i ffermwyr a ffermio ar adeg sydd eisoes yn ddigon cythryblus. Rwyf eisoes wedi cadarnhau y bydd y BPS yn para yn 2021 er mwyn rhoi sefydlogrwydd mawr ei angen, a gallaf gyhoeddi heddiw fy mwriad i’r BPS bara yn 2022 hefyd, os gall Llywodraeth y DU gadarnhau bod arian ar gael.  Fy mwriad yw rhoi rhagor o sicrwydd i fusnesau fferm yn y cyfnod sy’n arwain at ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Daw’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn i ben ar 25 Mawrth 2021.  Caiff yr ymatebion, ynghyd â’r holl faterion perthnasol eraill, gan gynnwys y trafod â rhanddeiliaid a’r sylfaen dystiolaeth sydd wrthi’n cael ei datblygu, eu defnyddio i’n helpu i ddatblygu ein polisi a’n deddfwriaeth amaeth yn y dyfodol.

Cliciwch yma i weld yr ymgynghoriad