Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf am eich hysbysu am fwriad Llywodraeth Cymru i osod rheoliadau drafft i'w cymeradwyo gan y Senedd, a fyddai'n caniatáu hyblygrwydd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru mewn perthynas â chyhoeddi cofrestr etholiadol 2020, sy'n codi yn sgil cynnal y canfasiad blynyddol o etholwyr.  Mae hyn fel y gellir gwneud trefniadau priodol i sicrhau y cynhelir y canfasiad yn y ffordd fwyaf diogel posibl.

Cynhelir y canfasiad etholiadol bob blwyddyn ac er bod cofrestru etholwyr yn broses drwy gydol y flwyddyn, mae'r canfasiad yn cyflwyno'r cyfle i Swyddogion Cofrestru Etholiadol sicrhau cywirdeb y gofrestr.  Mae'r canfasiad yn dechrau fel arfer ar 1 Gorffennaf bob blwyddyn a gall gymryd hyd at bum mis i'w gwblhau.  Mae'r canfasiad yn dod i ben wrth gyhoeddi'r gofrestr etholiadol ddiwygiedig ar 1 Rhagfyr y flwyddyn honno.  Mae'r dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr wedi'i nodi mewn deddfwriaeth a bwriadaf osod rheoliadau drafft, a fyddai'n caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyhoeddi cofrestr etholiadol 2020 yn ddiweddarach os bydd angen, hyd at 1 Chwefror 2021.  Byddai'r newid hwn yn berthnasol i gyhoeddiad cofrestr etholiadol 2020 yn unig.

Rwyf o'r farn, yn yr amgylchiadau presennol a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19, y dylai fod rhywfaint o hyblygrwydd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal y canfasiad mewn ffordd sy'n gymesur â gofynion iechyd y cyhoedd, a gellir cyflawni hyn drwy symud y dyddiad terfynol y mae'n rhaid cyhoeddi cofrestr etholwyr 2020. Nid yw hyn yn golygu na ellir cyhoeddi cofrestrau ond ar 1 Chwefror 2021, gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddewis eu cyhoeddi ar 1 Rhagfyr 2020 fel arfer neu ar unrhyw ddyddiad arall hyd at, a chan gynnwys, 1 Chwefror 2021. Byddai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn rhydd i ddechrau gweithio ar y canfasiad blynyddol ym mis Gorffennaf fel arfer, ond bydd mwy o amser ar gael iddynt i sicrhau y gellir rhoi trefniadau priodol ar waith i gynnal y canfasiad yn ddiogel.

Fy mwriad yw gosod y rheoliadau drafft, a fydd yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, cyn toriad yr haf ac rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad heddiw i roi gwybod i'r Pwyllgor am fy mwriadau.