Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rwy’n falch o hyrwyddo hawl plant i chwarae, ac yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd hanfodol chwarae a'r manteision a ddaw yn sgil hyn i iechyd, hapusrwydd a lles plant. Rwy'n teimlo balchder o hyd mai Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu i gefnogi chwarae plant, gan sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu cyfleoedd digonol drwy Ddyletswyddau Cyfleoedd Chwarae Digonol.
Mae'r canllawiau statudol diwygiedig hyn - 'Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae' yn helpu awdurdodau lleol i asesu, a chyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, sicrhau digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardaloedd. Yn ddiweddar rydym wedi cydweithio gyda Chwarae Cymru a Swyddogion Arweiniol Chwarae Awdurdodau Lleol i adolygu'r canllawiau statudol hyn ar gyfer awdurdodau lleol, ochr yn ochr â'r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, adnoddau cysylltiedig a thempledi ategol, a gyhoeddwyd yn 2024, fel sy'n ofynnol o dan argymhelliad 2 yr Ymateb Gweinidogol i argymhellion y Grŵp Llywio.
Er nad oes unrhyw newidiadau i'r gofynion na'r dyletswyddau ar yr awdurdodau lleol o fewn y canllawiau diwygiedig hyn, rydym yn gwybod bod y gwaith hwn wedi eu galluogi i ddechrau cynllunio, gan fanteisio ar y ddeddfwriaeth, y polisi a’r arfer gorau cyfredol, i gyflwyno eu hasesiadau llawn nesaf o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae erbyn mis Mehefin 2025.
Rwy'n diolch i Chwarae Cymru, yr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill am eu cefnogaeth barhaus i chwarae plant, gan hwyluso ein huchelgais i wireddu'r freuddwyd o weld Cymru yn wlad lle mae cyfle i chwarae. Rydyn ni eisiau gweld Cymru sy'n gweithredu dros bob plentyn – lle gall pob babi, plentyn ifanc, eu teuluoedd a'u cymuned ffynnu, trwy gyfoethogi cyfleoedd a phrofiadau i chwarae.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.