Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau bod dogfen ymgynghori sy’n gosod y cynigion ar gyfer cyflwyno system tabl prisio ar gyfer iawndal TB wedi’i chyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fy nod yw sicrhau bod gennym system talu iawndal ar gyfer TB sy’n deg i ffermwyr gwartheg ac i drethdalwyr, ac sydd hefyd yn annog ffermwyr gwartheg i chwarae eu rhan i drechu’r clefyd.

Fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 21 Hydref 2013, rwy’n awyddus i glywed barn rhanddeiliaid am y cynigion hyn a byddaf yn ystyried yr holl sylwadau’n ofalus iawn cyn penderfynu newid y system bresennol.

Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion yn para 12 wythnos tan 22 Ebrill 2014.  Esbonnir sut i ymateb yn y ddogfen ymgynghori.