Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y costau a ysgwyddwyd gan y swyddogion canlyniadau wrth gynnal Etholiad y Senedd 2021. Cyfanswm y costau hyn oedd £4,584,209.58.
Nodwyd yr uchafswm y gall swyddogion canlyniadau ei hawlio ar gyfer cynnal yr etholiad yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021.Mae'n ofynnol i swyddogion canlyniadau gofnodi'r symiau sy'n gysylltiedig â chostau cynnal yr etholiad ac, yn unol ag amserlen benodol, rhaid iddynt gyflwyno cyfrif o'r costau gwirioneddol ac unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer eu gwirio. Pan fydd yr holl gyfrifon wedi'u gwirio a'r ymholiadau wedi'u datrys, bydd y cyfrifon wedi'u cadarnhau.
Mae'r gwariant yn cael ei fodloni gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Gyfunol Cymru. Cafodd Etholiad y Senedd 2021 ei gyfuno ag Etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru. Costau etholiad y Senedd yn unig a gynrychiolir yn y data cyhoeddedig. Mae'r data yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, costau llogi adeiladau, argraffu cardiau pleidleisio a phapurau pleidleisio a chostau staff. Mae hefyd yn cynnwys costau untro ychwanegol a ysgwyddwyd o ganlyniad i Covid-19, gan dystio i'r amgylchiadau digynsail y cynhaliwyd yr etholiad hwn oddi tanynt. Am yr un rheswm, gwnaeth y costau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau a ddarperir gan weinyddwyr etholiadol barhau ar gyfer Etholiad y Senedd 2021. Bwriedir tynnu’r elfennau hyn ar gyfer Etholiad y Senedd 2026.
Nid yw'r costau a dalwyd yn uniongyrchol allan o Gronfa Gyfunol Cymru – a ddaeth i gyfanswm o £5,503,260 – wedi'u cynnwys. Mae costau postio sy'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd postio ymgeiswyr yn enghraifft o gostau o'r fath.
Mae dolen i'r data ar gael yma: Costau etholiadau'r Senedd: 2021