Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Heddiw rwy'n cyhoeddi'r cod ymarfer newydd ar faterion y gweithlu, a elwir y ‘Cod Dwy Haen’ fel arfer. Mae hyn yn adlewyrchu'n hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu gwasanaeth cyhoeddus, a'n dymuniad i sicrhau bargen deg i'r gweithlu. Mae wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae ar gael isod:
Nod y Cod Gweithlu Dwy Haen yw sicrhau lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu rhoi ar gontract allanol i drydydd parti:
- bydd staff yn trosglwyddo a bydd TUPE yn berthnasol, neu dylid dilyn egwyddorion TUPE os nad yw'n union berthnasol;
- byddai recriwtiaid newydd i'r darparwr gwasanaeth sy'n gwneud gwaith ar y contract yn cael eu cyflogi ar Delerau ac Amodau nad ydynt yn llai ffafriol na rhai staff sy'n cael eu trosglwyddo.
- sicrhau bod yr un Cod hwn yn berthnasol i amrywiaeth ehangach o gyrff, gydag Awdurdod statudol pob corff yn gyfrifol am ei gymhwyso
- atgyfnerthu'r trefniadau monitro ac adrodd o ran defnyddio'r Cod;
- egluro agweddau penodol (o ran ymunwyr newydd, er enghraifft);
- adlewyrchu'r ddeddfwriaeth newydd ar bensiynau, yn enwedig y broses o gofrestru awtomatig a gyflwynwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 a'r Fargen Deg ddiwygiedig.
Er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i gymhwyso darpariaethau'r Cod mewn contractau, rydym hefyd wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Caffael a model o delerau contract. Bydd hyn yn fan cychwyn o ran galluogi cyrff cyhoeddus i gymhwyso darpariaethau'r Cod mewn contractau, a allai gael eu haddasu i weddu i anghenion lleol os bydd angen.
Mae'n eglur iawn imi y dylem geisio osgoi Gweithlu Dwy Haen. Mae gweithlu hynod frwdfrydig ac unedig sy'n ymddiddori yn eu gwaith yn fwy cynhyrchiol, yn gallu cynhyrchu gwaith o well safon ac yn llai tebygol o roi sylw i amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldebau a gwahaniaethau o ran Telerau ac Amodau.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi'r Crynodeb o Ymatebion i'r ddogfen ymgynghori ‘Gweithlu'r Gwasanaeth Cyhoeddus: Ymgynghoriad ar Ganllawiau a Chyfarwyddiadau drafft ynghyd â Chod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu’, a gyhoeddwyd ar 26 Medi 2013. Gwahoddwyd safbwyntiau ar y cynigion fel rhan o ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben ar 20 Rhagfyr 2013.