Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau yn dymuno gwybod bod y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yn dod yn god ymarfer statudol cyntaf i'w gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd y cod ymarfer hwn yn dod i rym pan fydd y Ddeddf yn cychwyn ar 6 Ebrill 2016. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddychwelyd gwybodaeth am berfformiad cenedlaethol mewn perthynas â'u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Adroddir ar yr wybodaeth yn 2017, a bydd yn disodli'r holl wybodaeth am berfformiad gwasanaethau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli.

Rwy'n hyderus y bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddeall perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Bydd dychwelyd gwybodaeth genedlaethol yn caniatáu cymariaethau ac yn galluogi awdurdodau lleol i feincnodi eu perfformiad yn erbyn eraill i ddysgu, gwella a chyfrannu at ddatblygiad polisi cenedlaethol.

Trwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, cafodd dogfen ganllaw sy'n sylfaen i hyn hefyd ei chyhoeddi er mwyn cefnogi'r gwaith o gasglu'r wybodaeth a nodwyd yn y cod ymarfer.