Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Mae’n bleser gen i rannu gyda’r Aelodau gopi o’r Canllawiau Statudol ar gyfer Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 wedi cael cydsyniad brenhinol ar 21 Mawrth 2016. Roedd y Ddeddf yn mewnosod darpariaethau newydd i Ddeddf GIG (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) ynglŷn â lefelau staff nyrsio mewn
wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol. Mae’r darpariaethau newydd yn Neddf 2006 yn cychwyn fesul cam. Roedd y ddyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys (adran 25A) yn cychwyn ar 6 Ebrill 2017 a bydd y ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio a chymryd camau i gynnal y lefelau (adran 25B), y dull o gyfrifo lefelau staff nyrsio (adran 25C) a’r ddyletswydd a roddir ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gyflwyno adroddiad ar lefelau staff nyrsio i Weinidogion Cymru (adran 25E) yn cychwyn ar 6 Ebrill 2018.
Mae adran 25D(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau am y dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C. Rhaid i’r Byrddau Iechyd Lleol ac unrhyw Ymddiriedolaethau GIG y mae’r adrannau hyn yn berthnasol iddynt roi sylw i’r canllawiau. Yn unol ag adran 25D(4), mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, sefydliadau sy’n cynrychioli darparwyr cartrefi gofal ac ysbytai annibynnol, a sefydliadau sy’n cynrychioli rhai eraill y mae’r canllawiau’n debygol o effeithio arnynt. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 7 Rhagfyr 2016 a 7 Ebrill 2017. Dadansoddwyd yr atebion ac maent wedi’u hamlinellu a’u cyhoeddi mewn adroddiad sy’n crynhoi’r ymgynghoriad.
Cafodd y canllawiau eu cyhoeddi ar 2 Tachwedd 2017, cyn y dyddiad cychwyn ar gyfer gweddill y dyletswyddau sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf, ac yn unol â phrosesau cynllunio’r GIG ar gyfer 2018/19.