Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ar 12fed Gorffennaf pasiodd y Senedd y ddeddfwriaeth i newid y Terfyn Cyflymder Diofyn Cenedlaethol yng Nghymru ar ffyrdd cyfyngedig o 30 mya i 20 mya. Mae awdurdodau priffyrdd wrthi’n paratoi ar gyfer y newidiadau angenrheidiol hyn cyn i’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ddod i rym ym mis Medi 2023.
Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol (‘blanced’) ar bob ffordd, bydd yn gwneud y terfyn cyflymder diofyn yn 20mya, gan adael awdurdodau lleol, sy’n adnabod eu hardal orau, i ymgysylltu â’r gymuned leol i benderfynu pa ffyrdd ddylai aros ar 30mya.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau priffyrdd i ddylunio proses ar gyfer eithriadau 30mya a’r Canllaw Pennu Eithriadau. Mae’r canllaw yn darparu offeryn i helpu i gymhwyso’r rhesymeg dros wneud unrhyw eithriad, tra hefyd yn ystyried ffactorau ac amgylchiadau lleol. Mae hefyd yn sicrhau bod dull cyson yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru.
Dros y misoedd nesaf, bydd awdurdodau priffyrdd yn ymgynghori ar eu holl eithriadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder diofyn newydd o 20 mya gan sicrhau bod pobl leol yn gallu dweud eu dweud ar y cynigion.
Er mwyn helpu i ddeall lle bydd yr eithriadau wedi’u lleoli, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn lansio map rhyngweithiol fydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i awdurdodau priffyrdd fynd drwy’r broses ymgynghori.