Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod bod dau gwmni o Abertawe wedi cadarnhau eu bwriad i gau eu safleoedd yng Ngorseinon dros y 18 - 24 mis nesaf. Bydd tua 300 o swyddi yn cael eu colli yn sgil y penderfyniadau hyn.  Mae hyn yn amlwg yn newyddion siomedig i'r ardal a bydd yn amser pryderus i weithwyr yn y ddau gwmni, eu teuluoedd a'r gymuned leol ac rydym yn barod i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r staff y mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio arnynt.

Mae Toyoda Gosei wedi dweud wrthym eu bod yn bwrw ymlaen â'u cynnig i gadarnhau cau safle'r cwmni yn Abertawe, yn dilyn cyfnod o ymgynghori â’r staff a’r Undebau. Mae'r cynnig yn cael ei wneud mewn ymateb i newidiadau parhaus yn y sector modurol byd-eang, a gostyngiad sylweddol yn y galw allweddol gan gwsmeriaid yn y DU. At hynny, rydym yn deall y bydd y cynnig hwn, sy'n debygol o ddod i rym o ddiwedd 2022 i 2023, yn effeithio ar y 228 o staff sy’n gweithio ar y safle ar hyn o bryd.

Rydym hefyd wedi cael gwybod gan 3M o'u bwriad i gau eu cyfleuster yn Ffordd Gorseinon, Penllergaer, gan golli 89 o swyddi. Deallwn fod y penderfyniad wedi'i wneud ar sail y tanddefnydd parhaus o’r safle yn sgil y newidiadau yn y marchnadoedd y mae'n eu gwasanaethu, sef y diwydiant gofal personol, yr ôl-farchnad yn dilyn gwrthdrawiadau a chanolfannau trwsio cerbydau. Dros y 24 mis nesaf, bydd y gweithrediadau gweithgynhyrchu yn cael eu hailleoli i gyfleusterau presennol 3M ledled y byd.

Mae manylion y cymorth sydd ar gael drwy raglenni Cymru'n Gweithio a ReAct wedi’u darparu i'r ddau gwmni ac rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad parhaus â'r cwmnïau i gefnogi’r staff y mae'r penderfyniadau'n effeithio arnynt, gan gydweithio'n agos â'r awdurdod lleol. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid eang yn Ninas-ranbarth Abertawe i fwrw ymlaen â'n huchelgeisiau sydd wedi'u nodi'n glir yn ein Rhaglen Lywodraethu ac sy'n cyd-fynd â'n Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu sy'n seiliedig ar economi ffyniannus, gwyrdd a chyfartal.  

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.