Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yr wythnos hon cyhoeddwyd yr ail adroddiad gwerthuso interim ar Wasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac rwyf wedi ei atodi er gwybodaeth. Mae hwn yn dilyn yr adroddiad interim cyntaf a gyhoeddwyd fis Medi y llynedd, y gellir ei weld ar-lein.

Mae’r gwerthusiad yn defnyddio gwybodaeth o’r tair ardal arloesi Cam 1 sef Wrecsam, Casnewydd a chonsortiwm Rhondda Cynon Taf/Merthyr Tudful. Rydym yn dal wrthi’n cyflwyno’r gwasanaeth, ac rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y teuluoedd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, yn ogystal â’r cyfraniad y mae Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn ei wneud wrth siapio gwasanaethau cyhoeddus integredig ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghymru sy’n agored i niwed.

Mae’r hyn a ddysgir o’r gwerthusiad a’r casgliadau yn werthfawr i’r holl ardaloedd Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd wrth ddatblygu’r gwasanaeth arloesol hwn ymhellach. Mae’n flaenoriaeth allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu ac yn fy ngweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yng Nghymru. Felly, rwy’n ysgrifennu at bob Bwrdd Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd i rannu’r adroddiad a sicrhau eu bod yn ystyried casgliadau’r adroddiad yn llawn. Disgwylir y bydd yr adroddiad gwerthuso terfynol yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.