Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn dadl gan yr Aelodau ar 14 Chwefror 2018 ar faterion yn ymwneud â ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ei fod yn sefydlu Tasglu i edrych ar y problemau sy'n gysylltiedig â ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu  ac i wneud argymhellion ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â nhw ac osgoi problemau yn y dyfodol.

Mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 6 Mawrth 2018, nododd y Gweinidog Tai ac Adfywio bryd hynny gyfres o gamau er mwyn mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â deiliadaeth lesddaliadol preswyl fel opsiwn i fod yn berchen ar dŷ yng Nghymru. Mae'r datganiad ysgrifenedig yn cyfeirio at broblemau sy'n wynebu perchnogion cartrefi rhydd-ddaliadol sy'n gysylltiedig â ffioedd rheoli ystadau a godir arnynt. Fel rhan o'r gyfres hon o gamau, crëwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen amlddisgyblaethol ar Ddiwygio Lesddeiliadaeth i helpu gyda'r gwaith hwn.

Heddiw, rydym yn ysgrifennu at yr Aelodau i roi'r newyddion diweddaraf ar gyhoeddi'r adroddiadau gan y Tasglu Ffyrdd Heb Eu Mabwysiadu a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddiwygio Lesddeiliadaeth.

Mae’n glir bod elfennau o waith y ddau grŵp yn gorgyffwrdd yn sylweddol. Er eu bod wedi mynd ati i ymdrin â mater ffyrdd heb eu mabwysiadu a ffioedd rheoli ystadau a godir o wahanol fannau cychwyn, maent wedi rhannu rhywfaint o aelodaeth, ac wedi ceisio manteisio ar gyfleoedd i rannu gwybodaeth. Bellach, mae’r ddau grŵp wedi cwblhau eu hadroddiadau ac wedi ystyried y ffordd orau i gysoni eu hargymhellion. Mae’r gydnabyddiaeth bod angen i’r ddwy agwedd hyn o’r gwaith ddod ynghyd mewn un ffrwd waith yn cael ei hadlewyrchu yn y datganiad hwn a wneir ar y cyd heddiw.

Mae'r problemau a geir yn y maes hwn yn niferus ac yn rhai dyrys. Drwy dynnu ynghyd aelodau o amrywiaeth eang o grwpiau perthnasol i roi cyngor i ni, rydym mewn sefyllfa gryfach i bwyso a mesur pa gamau yw'r rhai mwyaf priodol i'w cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hynny sy'n parhau o fewn y sector.

Byddwn yn ystyried yr argymhellion sydd yn y ddau adroddiad yn ofalus a byddwn yn eu dadansoddi’n fanwl cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Mae lesddaliad, fel deiliadaeth, yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth gymhleth, a chyn penderfynu ar y gyfres lawn o gamau, bydd angen ystyried casgliadau adroddiad Comisiwn y Gyfraith yng nghyd-destun ein pwerau datganoledig.

Fel y dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio bryd hynny wrth lansio'r Tasgu, byddwn yn deddfu ar hyn os bydd angen. Wedi dweud hynny, dim ond ar ôl gweld yr adroddiadau gan Gomisiwn y Gyfraith y bydd modd i ni ystyried yn iawn a oes angen newid y gyfraith. Mae disgwyl i'r adroddiadau fod ar gael yn nes ymlaen eleni.

Yn y cyfamser, mae argymhellion yn yr Adroddiad Ffyrdd Heb Eu Mabwysiadu y gallwn fwrw ati i'w rhoi ar waith yn syth er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o ailadrodd y problemau sydd wedi codi hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn ystyried yr argymhellion gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i nodi’r camau hynny y gellir eu cymryd nawr gyda'r ‘offer’ sydd ar gael i ni eisoes.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau yn yr hydref.