Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Mae Cytundeb hanesyddol Paris, a luniwyd ym mis Rhagfyr 2015, yn gytundeb rhyngwladol sydd am sicrhau na fydd yr hinsawdd fyd-eang yn newid mwy na 2 radd Celsius, a hynny er mwyn osgoi newid di-droi'n-ôl yn yr hinsawdd. Mae’n hanfodol ein bod yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond mae o’r pwys mwyaf hefyd ein bod yn paratoi ar gyfer y newidiadau anochel a fydd yn ganlyniad i’r allyriadau sydd wedi’u rhyddhau eisoes. Rwyf, felly, yn croesawu’r adroddiad tystiolaeth annibynnol newydd a baratowyd gan yr Is-bwyllgor Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer y Llywodraeth, ac sy’n canolbwyntio ar y risgiau sy’n wynebu pob rhan o’r DU o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd a gyflwynwyd gan yr Is-bwyllgor Ymaddasu i Newid Hinsawdd, sy’n un o is-bwyllgorau Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn dangos bod y newid yn yr hinsawdd yn beth real iawn a bod angen inni ddechrau paratoi ar fyrder. Mae’r enghreifftiau o dywydd eithafol a welwyd eisoes yn dangos bod y tywydd a’r hinsawdd yn fygythiad inni eisoes, a bydd y mathau hynny o beryglon i’w gweld yn amlach yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad am Gymru yn tynnu sylw at y risgiau sy’n wynebu ein heconomi, ein cymunedau a’n hamgylchedd o ganlyniad i lifogydd a gwres. Bydd y risgiau hynny’n effeithio ar ein cartrefi a’n cymunedau ac ar ein seilwaith, megis ffyrdd, rheilffyrdd a’r cyflenwad dŵr yr ydym yn dibynnu arno. Mae ein tir, ein cynefinoedd a’n busnesau amaethyddol mewn perygl hefyd. Mae’r holl bethau hyn yn sail i’n llesiant a’n hansawdd bywyd yma yng Nghymru.
Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati eisoes i gysylltu’r sylfaen dystiolaeth bwysig hon â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) yn ystyried y risgiau hirdymor wrth gynllunio at y dyfodol. Y nod yw sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol ac osgoi costau diangen mewn hinsawdd lle mae llai a llai o gymhorthdal cyhoeddus.
Yn fy mhortffolio i, rwyf yn mynd ati eisoes i sicrhau bod y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd yn dod yn rhan annatod o’r gwaith o reoli’n hadnoddau naturiol. Mae Deddf yr Amgylchedd yn sefydlu deddfwriaeth i gryfhau iechyd ein hadnoddau naturiol er mwyn lleihau, a hefyd liniaru, effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, gan wario dros £55 miliwn eleni ar leihau risg ac ar gynnal a chadw asedau sy’n bodoli eisoes er mwyn iddynt fedru parhau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Mae’r cynlluniau hynny’n cynnwys dechrau gwaith newydd o bwys yn Llanelwy, Casnewydd a Bro Morgannwg ac ar yr A55 yn Nhal-y-bont, Gwynedd, lle bûm ar ymweliad yr wythnos diwethaf. Unwaith y bydd y cynlluniau hyn wedi’u cwblhau, byddant yn lleihau perygl llifogydd i dros 3500 o adeiladau, a byddant hefyd yn amddiffyn seilwaith allweddol.
Yn ogystal, drwy fuddsoddi yn y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordiroedd, rydym yn cydnabod y perygl cynyddol sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd ac sy’n deillio o’r ffaith bod lefel y môr yn codi, ac rydym yn cynllunio ymlaen llaw. Bydd swm o £150 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen hon rhwng 2018 a 2022. Bydd yn cael ei darparu gan yr Awdurdodau Lleol, a’r nod fydd meithrin cadernid ar hyd arfordir Cymru. Mae gwaith paratoadol wedi ei wneud eisoes ac mae’n cael ei gyllido’n llawn eleni.
Mae’r sector dŵr wedi buddsoddi’n sylweddol ac yn llwyddiannus dros y 25 mlynedd diwethaf yn ein systemau carthffosiaeth a’n systemau draenio, gan sicrhau bod ei gwsmeriaid yn gallu mwynhau peth o’r ansawdd dŵr gorau yn ein hafonydd a’n moroedd. Er hynny, mae heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen yn ein hwynebu, gan gynnwys heriau’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn cydweithio’n agos â chynrychiolwyr y diwydiant dŵr drwy raglen ddraenio’r 21ain ganrif i ystyried ffyrdd o ddarparu systemau draenio trefol sy’n fwy abl i ymdopi â’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau dŵr yn rhai cadarn a chydnerth, rydym yn ystyried diwygio’r system trwyddedu tynnu dŵr yng Nghymru. Mae nifer o esemptiadau hanesyddol yn y system trwyddedu tynnu dŵr sy’n golygu nad oes unrhyw gyfyngiad ar dynnu dŵr at rai dibenion. Er mwyn inni fedru rheoli adnoddau dŵr mewn modd sy’n wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd, byddwn yn trefnu bod tynnu dŵr at y dibenion hynny yn dod yn rhan o’r system drwyddedu.
Fodd bynnag, yr hyn sydd o bwys mawr yw bod yr adroddiad yn dangos bod bylchau yn ein dealltwriaeth o’r risgiau, a hynny am nad oes gwybodaeth addas ar gael neu oherwydd nad oes modd asesu rhai o’r cysylltiadau rhwng y risgiau hynny. Yn y dyfodol, wrth i dystiolaeth newydd ddod i’r amlwg, bydd angen inni fynd ati’n barhaus i adolygu, diweddaru a rheoli’r risgiau hynny. Felly, mae angen inni fynd ati yn awr i greu sylfaen dystiolaeth gref, ac rydym wedi dechrau ar y gwaith hwnnw eisoes mewn rhai ardaloedd.
Gwyddwn fod effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith anghymesur ar y bobl fwyaf agored i niwed, a dyna pam y comisiynodd Llywodraeth Cymru ragor o ymchwil er mwyn deall sut y gallwn fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwnnw a datblygu’r gallu i wrthsefyll y risgiau a nodir yn yr adroddiad. Byddaf yn mynd ati bellach i gydweithio â fy Nghydweithwyr yn y Cabinet i weld sut y gallwn leihau’r anghydraddoldeb hwnnw a meithrin y gallu i wrthsefyll y risgiau a nodwyd yn yr adroddiad.
Er mai ymdrin â chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd y mae’r adroddiad hwn, rhaid inni beidio ag anghofio bod angen inni hefyd leihau ein hallyriadau. Bellach, mae gennym ddeddfwriaeth i leihau ein hallyriadau o leiaf 80% erbyn 2050, gan chwarae’n rhan wrth weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn y cyd-destun byd-eang. Er mai gwlad fach ydym, rydym, ar y cyd â’n partneriaid, wedi gwneud ymrwymiadau uchelgeisiol i leihau ein hallyriadau drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Arweinyddiaeth Is-genedlaethol ar yr Hinsawdd Fyd-eang. Mae 135 o awdurdodaethau yn rhan ohono, ac maent yn cynrychioli 32 o wledydd, chwe chyfandir, 783 miliwn o bobl a $21 triliwn mewn cynnyrch domestig gros, sy’n gyfwerth â thros chwarter yr economi fyd-eang.
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gyfuno grym a thrwy gydweithio. Dyna beth fydd angen inni ei wneud yn y dyfodol. Mae canlyniadau’r newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo fwy ar y lefel leol ac mae’r risgiau’n cael eu rhannu ar draws sectorau a sefydliadau gwahanol ac ar draws y cymunedau lle’r ydym yn byw. Bydd angen inni gydweithio i greu cydnerthedd ym mhob cwr o Gymru ar gyfer ein cymunedau ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.