Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu (UPSI) ar effeithiolrwydd y 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol ar strydoedd Cymru – a gallwch ei weld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yr hyn y mae’r gwaith ymchwil yn ei ddangos yw tra bo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar ariannu'r heddlu ar hyn o bryd, sy'n golygu bod nifer y swyddogion yn Lloegr yn lleihau, nid yw'r nifer yn lleihau yng Nghymru. Yr egwyddor o ran ychwanegedd sy’n sail i’r prosiect hwn oedd bod angen 500 yn fwy o swyddogion ar y stryd nag y byddai'r sefyllfa heb yr arian hwn. Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu bod yr egwyddor honno'n gweithio, a bod y cyhoedd wedi sylwi ein bod yn parhau i gadw plismyn ar y strydoedd yng Nghymru.
Nid yw'r adroddiad yn awgrymu bod y swyddogion ychwanegol hyn wedi cael effaith ar leihau'r ffigurau troseddu, ond nid hwnnw oedd bwriad yr ymchwil. Mae llawer gormod o newidynnau sy'n gallu cael effaith ar ffigurau troseddu i fedru priodoli unrhyw ostyngiad i un fenter unigol. Fodd bynnag, roeddwn i'n falch o nodi bod yr ymchwil yn awgrymu bod ein swyddogion ychwanegol yn cael eu gweld ar ein strydoedd, a'u bod yn bodloni disgwyliadau'r cyhoedd drwy fynd i'r afael â throseddu ar raddfa isel ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Un o’r prif ffactorau a oedd wedi ysgogi’r prosiect hwn oedd rhoi mwy o blismyn ar ein strydoedd fel eu bod yn helpu i roi sicrwydd i’r cyhoedd.
Er inni ei gwneud yn glir o'r cychwyn cyntaf ei bod yn hanfodol y gallai'r heddlu weithredu'n annibynnol wrth benderfynu ar ble a sut i adleoli'r swyddogion ychwanegol hyn, roeddem wedi rhoi gwybod yr hoffem weld mwy ohonynt yn cael eu hadleoli yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu bod mwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol ar y strydoedd yn yr ardaloedd hynny. Mae’r gwaith ymchwil yn awgrymu bod yr asesiad wedi bod yn un heriol yn sgil y ffaith bod yr heddlu wedi gweithredu mewn modd annibynnol, gan fod y swyddogion ychwanegol hyn wedi'u hadleoli mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, ac maent wedi cael gwahanol fathau o dasgau a chyfrifoldebau.
Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i sylw'r Aelodau.