Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae “Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid - Cyrraedd Safonau Uchel Gyda’n Gilydd” yn nodi'r dull rydym yn ei ddefnyddio i sicrhau gwelliannau parhaus a pharhaol i safonau iechyd a lles anifeiliaid.   Mae ein gweledigaeth wedi’i chrisialu mewn nifer o ganlyniadau a rennir, sef:  y dylai Cymru gael anifeiliaid cynhyrchiol ac sydd ag ansawdd bywyd da; bod pobl yn hyderus o ran y ffordd y caiff ein bwyd ei gynhyrchu ac yn ymddiried yn y ffordd rydym yn amddiffyn iechyd y cyhoedd; bod gennym economi ffyniannus yng Nghymru ac amgylchedd o safon uchel. Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn cyfrannu at y saith nod lles sydd wedi'u nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, sef Cymru lewyrchus, gydnerth, iach a mwy cyfartal gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Yn yr Adolygiad Canol Blwyddyn o Gynllun Gweithredu Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer 2015/16, nodir y cynnydd rydym wedi'i wneud yn y chwe mis cyntaf hyn. Mae cwmpas yr adolygiad yn eang ac mae’n cynnwys y camau y mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn mynd i’r afael â hwy er mwyn codi ymwybyddiaeth o bioddiogelwch ac ymwrthedd i gyffuriau; datblygu sianeli effeithiol ar gyfer ymgysylltu â'r sector lles a mynd i'r afael a chlefydau ag iddynt effeithiau economaidd megis dolur rhydd feirysol buchol a'r clafr.   Ynddo hefyd nodir yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gan gynnwys rhoi'r Rhaglen Dileu TB ar waith, clefyd y crafu a BSE, ein trefniadau cynllunio wrth gefn pe digwyddai achos o glefyd difrifol, y prosiect Gwaharddiad Symud 6 Niwrnod a’n gwaith i amddiffyn iechyd gwenyn.

Gall y camau hyn gyfrannu at sicrhau diwydiant amaethyddol modern, proffesiynol a phroffidiol. Ar raddfa ehangach, bydd sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn helpu i amddiffyn yr economi rhag effeithiau achos o glefyd, effeithiau a fyddai’n cael eu teimlo o fewn y sector amaethyddol, y diwydiant bwyd a'r sector cyhoeddus a hefyd yn ehangach - er enghraifft, ar dwristiaeth.

Rwyf yn ddiolchgar i Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, dan gadeiryddiaeth Peredur Hughes, am ei ymroddiad a’i gefnogaeth yn bwrw ymlaen â’r Cynllun Gweithredu a’i gymorth wrth baratoi'r Adolygiad Canol Blwyddyn hwn.

Mae copi o'r Adolygiad Canol Blwyddyn o Gynllun Gweithredu Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer 2015/16 ar gael ar lein.