Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae "Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid ‒ Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd" yn nodi sut yr ydym yn bwriadu gweithredu er mwyn sicrhau gwelliannau parhaol a pharhaus i safonau iechyd a lles anifeiliaid, gan  ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyfrannu at yr economi a’r amgylchedd ar yr un pryd. Mae'r Fframwaith yn cyfrannu hefyd at y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Fis Gorffennaf diwethaf, cyhoeddais y Cynllun Gweithredu ar gyfer Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid 2016/17, a oedd yn nodi'n blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. Mae'r Adolygiad Canol Blwyddyn hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed. Mae'r adolygiad yn un eang ei gwmpas, gan ymdrin â gwaith Llywodraeth Cymru a gwaith Grŵp Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid. Mae’r camau gweithredu’n cynnwys gwaith i ddiweddaru ac i gryfhau'n rhaglen Dileu TB, adolygu'r Codau Ymarfer ar les anifeiliaid, yn ogystal â'r ymrwymiadau statudol sydd arnom i ddiogelu iechyd pobl a chadwyn fwyd pobl. Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau cynllunio wrth gefn sydd gennym ar gyfer mynd i'r afael â nifer mawr o achosion o glefyd. Mae'r cynlluniau hynny ar waith ar hyn o bryd er mwyn mynd i'r afael â'r achosion o ffliw adar H5N8.

Rwyf yn ddiolchgar i aelodau Grŵp Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid am eu hymroddiad a'u cefnogaeth. Ymhlith eu blaenoriaethau y mae bioddiogelwch ac ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn ogystal â helpu i ddatblygu Cynllun i Ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol yng Nghymru. Mae'r Grŵp hefyd wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith sy'n cael ei wneud i ystyried iechyd a lles anifeiliaid yng nghyd-destun gadael yr UE.

Rydym wedi cymryd camau breision ymlaen ar draws yr ystod eang hon o weithgareddau. Mae'r Adolygiad Canol Blwyddyn yn dangos y gallwn, drwy weithredu'r egwyddorion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod Cymru'n cyrraedd y safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid. Mae'r gwaith hwn yn sylfaen hollbwysig wrth inni gynllunio ar gyfer 2017/18 a'r tymor hwy.