Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn Hydref 2014 comisiynais Banel Arbenigol i adolygu darpariaeth amgueddfeydd lleol ledled Cymru. Mae’r panel wedi cwblhau’r gwaith, a dw i’n falch cyhoeddi bod eu hadroddiad ar gael o adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddaf yn cyhoeddi ymateb ffurfiol i argymhellion yr adolygiad yn yr Hydref.

Dosbarthir copïau i AS, awdurdodau lleol ac amgueddfeydd yn fuan.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.