Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai Adolygiad Annibynnol o Ddiogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol yn cael ei gynnal o dan arweinyddiaeth y Farwnes Julia Cumberlege. Byddai’r adolygiad yn ymchwilio i’r pryderon a godwyd mewn tri maes penodol sy’n ymwneud ag iechyd menywod, y cyffur gwrthepileptig sodiwm falproad, y prawf beichiogrwydd primados sy’n seiliedig ar hormon, a’r defnydd o rwyll lawfeddygol. Cafodd adroddiad y tîm adolygu First Do No Harm ei gyhoeddi ar 8 Gorffennaf 2020.

Rwy’n croesawu’r adroddiad a’i argymhellion, sy’n amlygu methiannau sylweddol mewn diogelwch cleifion a’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r DU gyfan.

https://www.immdsreview.org.uk/downloads/IMMDSReview_Web.pdf

Bu’r tîm adolygu’n trafod yn helaeth gyda chleifion sydd wedi dioddef anawsterau yn sgil defnyddio profion beichiogrwydd hormon neu sodiwm falproad, neu yn sgil cael llawdriniaethau rhwyll lawfeddygol. Er bod yr adolygiad wedi canolbwyntio ar y system gofal iechyd yn Lloegr, roedd llawer o fenywod o Gymru wedi cyflwyno manylion am fethiannau tebyg o fewn gwasanaeth gofal iechyd Cymru, ac ymwelodd y tîm adolygu â Chaerdydd er mwyn i’r grwpiau cleifion yma allu cyflwyno eu tystiolaeth hwythau.  

Rwy’n falch bod y tîm adolygu wedi manteisio ar y cyfle i wrando ar brofiadau’r grwpiau cleifion hyn, a hoffwn ddiolch i’r rheini o Gymru a fu mor ddewr wrth roi tystiolaeth a rhannu eu hanesion personol iawn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r menywod hynny sydd wedi dyfalbarhau i dynnu ein sylw at y materion hyn, ac am sicrhau bod fy swyddogion a minnau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymdrechion i gyflawni amcanion eu hymgyrch.

Mae’r methiannau a ddisgrifir yn rhai byd-eang sydd wedi effeithio ar fenywod ar hyd a lled y DU, yn ogystal ag ar draws y byd: yn Ewrop, Gogledd America, ac ar draws rhanbarth y Môr Tawel. Mae’r methiannau penodol a nodir yn ymwneud â goruchwylio rheoleiddiol; diffyg tystiolaeth wyddonol am effeithiau profion beichiogrwydd hormon, sodiwm falproad, a rhwyll lawfeddygol; absenoldeb data i gofnodi problemau; ac yn destun pryder difrifol, y canfyddiad o ddiffyg cydymdeimlad a diddordeb o ran ymateb yn amserol mewn unrhyw fodd i bryderon a phroblemau cleifion er gwaethaf y ffaith bod digon o dystiolaeth bod dioddef yn digwydd ar lefel sydd wedi newid bywyd y dioddefwr.

Mae’n ddrwg gennyf o waelod calon am y niwed a achoswyd, ac rwy’n ymddiheuro i fenywod yng Nghymru am fethiannau’r gwasanaeth gofal iechyd ar draws y system gyfan.

Os gall unrhyw beth da ddod allan o’r hanes tywyll hwn, y peth hwnnw yw bod y gwasanaeth gofal iechyd yng Nghymru yn benderfynol y bydd yn dysgu o’i gamgymeriadau a’i fod yn gwneud ymrwymiad i wella. Yn ogystal â hynny, bydd yr argymhellion a wneir gan y tîm adolygu, yn enwedig yr argymhelliad i sefydlu cronfa ddata a chofrestr i nodi manylion cleifion, yn golygu y bydd yn bosibl tracio sut mae meddyginiaethau, profion sy’n seiliedig ar hormon, dyfeisiau meddygol, a thechnegau llawfeddygol yn effeithio ar ganlyniadau cleifion, er mwyn sicrhau nad yw cleifion yn cael niwed. O ran rheoleiddio, mae’n debygol y bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddiogelwch y claf, yn hytrach nag ar ystyriaethau masnachol megis y symbyliad i sicrhau bod triniaethau’n cyrraedd y farchnad yn gyflym.

Byddaf yn ymateb i argymhellion y tîm adolygu mewn datganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir yn ystod yr wythnosau nesaf.