Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ers i mi gael fy mhenodi’n Weinidog dros Faterion Gwledig yn 2007, rwyf wedi ymrwymo i fynd ati i ddileu TB gwartheg o Gymru. 

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, llwyddwyd i weddnewid y ffordd y mae TB gwartheg yn cael ei reoli yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig ffermwyr gwartheg, milfeddygon, priswyr a’r gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid yng Nghymru, sydd wedi cydweithio â ni yn ystod y cyfnod hwn.
 
Rydym yn gweithredu’n eang, a dyma rai o’r camau sy’n cael eu cymryd:

  • Gwell gwyliadwriaeth – gan gynnwys llai o esemptio o’r drefn Profi Cyn Symud, a chynnal profion blynyddol ledled Cymru.
  • Gwell mesurau i reoli clefydau mewn gwartheg – gwneud y profion yn fwy sensitif, er enghraifft, wrth ddelio ac achosion lle mae canlyniadau’r profion yn amhendant, a defnyddio mwy ar y prawf gwaed gama interfferon.
  • Cysylltu iawndal ag arferion da – er mwyn annog ymddygiad priodol wrth ffermio a sicrhau iawndal priodol.
  • Camau gorfodi – cymryd camau llym i orfodi polisi TB, gan gynnal profion gorfodol, ac erlyn, lle bo angen.
  • Gweithredu ar sail ranbarthol – gan gynnwys cyflwyno tri Bwrdd Rhanbarthol Dileu TB sydd wrthi’n datblygu mentrau priodol ar TB ar gyfer eu rhanbarthau. 

Diben y rhan fwyaf o’r mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith hyd yma yw lleihau’r risg o drosglwyddo TB rhwng gwartheg. Disgwylir i’r mesurau hyn gael effaith yn hyn o beth, ond mae’n rhy gynnar i ni fedru dweud mai’r mesurau hyn sydd i gyfrif am y gwelliannau a welwyd yn ddiweddar yn nifer yr achosion o TB. Mae angen i mi fod yn wyliadwrus hefyd oherwydd y patrwm cylchol a welwyd yn y gorffennol i’r newid yn nifer yr achosion o TB.

Heb unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r prif ffynonellau heintio eraill, ni ddisgwylir i’r polisïau presennol arwain at ostyngiad cyson a fyddai’n golygu, yn y pen draw, y byddai TB gwartheg yn cael ei ddileu o ardaloedd o Gymru lle mae TB gwartheg yn endemig. Rwyf wedi dadlau bob amser bod angen gweithredu’n eang er mwyn dileu TB gwartheg, felly, rwyf yn falch heddiw o gael cyhoeddi dwy elfen arall –Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011.

Ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i’r dystiolaeth a gyflwynwyd i mi, ac ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghori hefyd, rwyf wedi penderfynu y byddai’n briodol i mi wneud y Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 er mwyn awdurdodi difa moch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys (ardal lle mae TB gwartheg yn endemig ac sy’n cynnwys rhannau o Sir Benfro, Sir Caerfyrddin a Ceredigion).

Caiff y Gorchymyn ei osod heddiw gyda’r bwriad y bydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.
 
Bydd y Gorchymyn hwn yn galluogi’r llywodraeth i fynd ati i ddifa moch daear mewn modd a reolir yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Nid dyma’r unig gam a fydd yn cael ei gymryd – bydd y mesurau ychwanegol i reoli gwartheg a’r gwell mesurau bioddiogelwch sydd wedi bod yn eu lle er mis Mai 2010 yn parhau hefyd.

Gwn y bydd y penderfyniad hwn yn peri pryder gwirioneddol i rai, ond mae’n benderfyniad a wnaed ar ôl i mi roi ystyriaeth lawn i’r mater, gan gynnwys yr holl dystiolaeth wyddonol sydd ar gael, ac ar ôl i mi fynd ati’n ofalus i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Hoffwn bwysleisio bod moch daear yn parhau i fod yn rhywogaeth a warchodir yng Nghymru a bod y gwaharddiadau yn y Ddeddf Gwarchod Moch Dear 1992 yn parhau i fod mewn grym. Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw weithredu anghyfreithlon.
Elfen arall ar y camau gweithredu cynhwysfawr hyn yw delio’n effeithiol â’r risgiau sy’n gysylltiedig â TB mewn anifeiliaid heblaw am wartheg. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 yn golygu bod y trefniadau ar gyfer atal a rheoli achosion o TB mewn camelidau, geifr a cheirw yn debyg i’r trefniadau sydd yn eu lle eisoes ar gyfer gwartheg. Bydd y gorchymyn yn cyflwyno mesurau rheoli i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ac yn darparu ar gyfer iawndal pan fo’r anifeiliaid hyn yn cael eu lladd am fod TB gwartheg arnynt. Dyma rai o nodweddion allweddol y gorchymyn:

  • iawndal statudol am anifeiliaid y mae’n rhaid eu symud am eu bod wedi adweithio i’r prawf TB;
  • cysylltiad rhwng cyfrifoldebau ceidwaid anifeiliaid ac iawndal er mwyn annog ceidwaid i weithredu mewn modd cadarnhaol i warchod eu hanifeiliaid rhag TB gwartheg;
  • gofyniad i geidwaid gadw cofnodion am symudiadau eu hanifeiliaid ac i ddangos y cofnod hwnnw pan ofynnir iddynt wneud hynny.

Mae Cynllun y DU i Ddileu TB yn nodi’r angen i fynd i’r afael â’r holl brif ffynonellau heintio. Rwyf yn falch o weld bod y dull hwn o weithredu ac, yn benodol, yr elfen o’r cynllun hwn sy’n ymwneud â Chymru, wedi cael sêl bendith y Comisiwn Ewropeaidd, pan gafodd y Cynllun Dileu Twbercwlosis (TB) ar gyfer 2011 ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2010. Mae’n bwysig nodi bod hyn yn golygu bod Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael cyfraniad ariannol o 23 miliwn Ewro.

Mae’n rhaid i ni barhau i weithredu’n eang er mwyn dileu TB gwartheg o Gymru. Yn fy marn i, mae’r cyhoeddiad hwn heddiw am yr Ardal Triniaeth Ddwys ac ar reoli anifeiliaid heblaw am wartheg, ynghyd a gwelliannau a wnaethpwyd dros y 3 blynedd diwethaf, yn sylfaen gadarn ar gyfer cyrraedd y nod hirdymor o gael gwared ar TB o Gymru.