Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi’r pedwerydd rhifyn o’r crynodeb blynyddol sy’n edrych ar berfformiad gwasanaethau Awdurdodau Lleol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys y data perfformiad diweddaraf i gefnogi atebolrwydd a chraffu ar wasanaethau cyhoeddus gan ddinasyddion ac Aelodau etholedig sy’n gweithredu ar eu rhan. Amgylchiadau ariannol heriol a galw cynyddol am nifer o’r gwasanaethau lleol allweddol yn gwneud yr angen i ganolbwyntio ar wella perfformiad yn bwysicach nag erioed.   Fel gweision cyhoeddus, rydym yn atebol i ddinasyddion am y penderfyniadau a wnawn. Yn y bôn, eu harian nhw sy’n talu am y gwasanaethau a ddarperir. Fodd bynnag, er mwyn i ddinasyddion allu herio amrywiad ym mherfformiad gwasanaethau cyhoeddus mae’n allweddol bod ganddynt wybodaeth gyflawn.   Mae’n bwysicach nag erioed i Aelodau etholedig Awdurdodau Lleol graffu ar berfformiad gwasanaeth eu Hawdurdod, waeth a ydynt yn cynrychioli buddiannau eu hetholwyr neu’n fwy ffurfiol ar bwyllgorau craffu. Gall y data perfformiad di-ben-draw fod yn ddryslyd. Er bod y cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth sylweddol i gefnogi craffu effeithiol, nid oes bwriad iddo fod yr unig ffynhonnell. Mae’n cynnwys dolenni i ffynonellau gwybodaeth eraill a fydd yn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn dadansoddi amrywiad perfformiad neu ddyletswydd i wneud hynny, ac yn hwyluso trafodaeth.   Mae copi o’r adroddiad ar gael yma:
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ar y datganiad hwn, byddaf yn hapus i wneud hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd.