Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r trydydd rhifyn o’r crynodeb blynyddol sy’n edrych ar berfformiad gwasanaethau Awdurdodau Lleol. Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys y data diweddaraf am eu perfformiad a bydd modd defnyddio’r data hyn i gefnogi atebolrwydd ac i graffu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r cyhoeddiad yn defnyddio ffynonellau cyfredol o wybodaeth i dynnu sylw at yr amrywiaeth o ran perfformiad ledled Cymru, a’i rhoi yn ei chyd-destun. Mae’n cynnwys cysylltiadau â ffynonellau eraill o wybodaeth a fydd o gymorth i’r sawl sydd â diddordeb mewn dadansoddi amrywiaeth perfformiad, neu sydd â dyletswydd i wneud hynny, ac yn hwyluso trafodaeth. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, data ar lefel Awdurdod Lleol ar wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal a chasglu gwastraff ac ailgylchu.
Wrth inni weld mwy a mwy o dynhau yn yr amgylchedd ariannu cyhoeddus, mae’n bwysicach byth fod gan y dinesydd rôl i graffu ar y ddarpariaeth o wasanaeth wrth iddynt brofi’r gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd. Mae’r cyhoeddiad yn cynnig un ffynhonnell o wybodaeth i’r dinesydd a Chynghorwyr am eu gwasanaethau lleol, y gellir ei defnyddio i gymharu pa mor dda y mae eu Hawdurdod Lleol yn perfformio o ran y gwasanaethau sy’n bwysig iddynt hwy.
Nod sylfaenol y cyhoeddiad hwn yw defnyddio ffynonellau cyfredol o wybodaeth er mwyn tynnu sylw at yr amrywiaeth o ran perfformiad, a rhoi amrywiaeth o’r fath yn ei chyd-destun. Fodd bynnag, mae hefyd yn ceisio ymhelaethu ar yr hyn y mae perfformiad da’n ei olygu. Yn y cyhoeddiad eleni ceir astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â chyfres o ymweliadau a wnes i â phob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn ystod haf 2013. Mae’r astudiaethau achos hyn yn enghreifftiau da o lle mae modd gwella profiad y dinesydd drwy feddwl yn arloesol a gwneud pethau’n wahanol. Ymhlith yr enghreifftiau mae Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Eleanor yn Sir y Fflint i gefnogi pobl hŷn i fyw’n fwy annibynnol a Hostelau sy’n darparu llety dros dro i’r digartref.
Wrth reswm, nid yw un set o ffigurau’n dweud y stori gyfan. Bwriad y dangosyddion a gyflwynir yma yw annog cwestiynau, nid darparu atebion syml. Bydd gwella ein dealltwriaeth yn ein helpu ni i wella perfformiad.
Cynllunio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddiwallu anghenion ei dinasyddion sydd wrth wraidd yr adroddiad a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Williams. Mae’r data perfformiad yn y cyhoeddiad hwn yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth y mae’r Comisiwn wedi’i defnyddio wrth baratoi’r adroddiad. Drwy symud ymlaen, bydd y dystiolaeth sydd yma o’r hyn sy’n bwysig i’r dinesydd, ynghyd â’r amrywiaeth perfformiad ledled Cymru, yn helpu i lywio sut rydym yn ymateb i Adroddiad y Comisiwn ac yn symud ein hagenda yn ei blaen i ddatblygu a gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar y dinesydd.