Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae llwyddo i newid o geir preifat i gerdded a beicio yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed allyriadau di-garbon net, ac yn un o ymrwymiadau allweddol Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl yng Nghymru gael mynediad at lwybrau cerdded a beicio o safon uchel sy'n cysylltu â’i gilydd o ble maent yn byw i'r man lle mae angen iddynt fynd. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio a chyflwyno rhwydweithiau o'r llwybrau hynny. Heddiw rwy'n cyhoeddi Canllawiau y Ddeddf Teithio Llesol wedi'u diweddaru i helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Gan adeiladu ar y drafft ymgynghori a gyhoeddwyd yn 2020, mae'r canllawiau newydd yn dwyn ynghyd y ddwy set flaenorol o ganllawiau statudol a oedd yn cyd-fynd â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac yn eu diweddaru. Mae'r diweddariad yn defnyddio ystod eang o ffynonellau, yn fwyaf nodedig profiadau defnyddwyr, adborth gan ymgynghoriadau cyhoeddus a rhanddeiliaid, newidiadau mewn polisi cenedlaethol a datblygiadau newydd mewn seilwaith a thechnoleg.

Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fanwl i awdurdodau lleol ar sut i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, yn ogystal â chanllawiau cynhwysfawr ar gynllunio a dylunio rhwydweithiau cerdded a beicio.

Mae'r canllawiau llawn i'w gweld yma.