Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ymrwymiadau’r Llywodraeth hon ar gyfer sicrhau, gyda’i phartneriaid, wasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon sy’n diwallu anghenion pobl Cymru. Yn sail i’n hagenda, mae ymrwymiad i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol – yr agenda hon yw’r ffordd Gymreig o sicrhau Cymru sy’n decach ac yn fwy ffyniannus.

Mae diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol – mae diwallu anghenion cynyddol a chymhleth dinasyddion yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn gofyn am newidiadau sylfaenol, a hynny yn gyflym. Nid oes gennym na’r cyllid na’r gallu i ddarparu’r gwasanaethau o safon uchel y mae pobl Cymru yn eu haeddu oni bai ein bod yn gweithio gyda’n gilydd.  

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Gompact ar gyfer Newid. Mae hwn yn gosod rhaglen weithredu ymarferol sy’n gymorth i sicrhau gwasanaethau gwell er bod heriau ariannol yn parhau.

Cefnogwyd y Compact trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Partneriaeth Cymru. Mae hyn yn dod â chydlyniad i bolisïau ac adolygiadau mawr o wasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ac mae’n nodi meysydd eraill lle bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yn edrych ar gyfleoedd i weithio’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.

Mae llawer o’r dystiolaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio o ran gwella gwasanaethau yn cefnogi rhagor o gydweithredu rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaethau gwell. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r cydweithredu hwn yn ychwanegu cymhlethdod. Mewn papur i’r Cyngor Partneriaeth ar 21 Gorffennaf 2011, ac er mwyn rhoi eglurhad ar y ffyrdd y dylai gwasanaethau cyhoeddus gydweithredu, gosodais sail ddaearyddol gyffredin ar gyfer cydweithredu yn seiliedig ar chwe ardal gydweithredol.

Trwy roi cydweithredu rhanbarthol ar sylfaen mwy cadarn a thymor hir, mae partneriaid yn gallu bwrw iddi gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion a chymunedau trwy Gymru. Yn ganolog i hyn, mae llywodraethu ac atebolrwydd cryf  –sef craffu ac atebolrwydd democrataidd i bobl leol. Mae gwybodaeth yn sail i hyn.

Heddiw, ar wefan Llywodraeth Cymru, rwyf wedi cyhoeddi crynhoad sy’n rhoi trosolwg o rai o’r ystadegau cryno allweddol ar gyfer yr ardaloedd sail gydweithredol - 

Mae’r erthygl hon yn rhoi dadansoddiad o bob un o’r chwe ardal gydweithredol, ac yn cymharu o fewn pob ardal, a rhwng yr ardaloedd cydweithredol rhanbarthol ar draws ystod o ystadegau sy'n adlewyrchu nodweddion demograffig economaidd a chymdeithasol yr ardaloedd hyn.