Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates , Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaetht

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n dda iawn gen i gyhoeddi bod y Llywodraeth hon wedi denu cwmni cynhyrchu ceir newydd i Gymru a fydd yn creu hyd at 500 o swyddi.

Diolch i’n cefnogaeth, bydd INEOS Automotive yn adeiladu ffatri gynhyrchu a chydosod newydd arbennig, 250,000 tr sg o faint, ym Mharc Busnes Brocastell, gyferbyn â ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i gynhyrchu'r cerbyd Grenadier 4x4 newydd.

Rwy'n credu bod hon yn bleidlais fawr o hyder yng ngweithlu ac economi Cymru ac mae'n profi bod Cymru'n dal i fod yn lle deniadol i fuddsoddi ynddo er gwaetha ansicrwydd Brexit. Rwyf wedi cael ar ddeall y bydd y cwmni'n dadorchuddio’r cerbyd newydd ddiwedd blwyddyn nesaf ac y bydd yn datblygu'i gynlluniau recriwtio dros y 12 mis nesaf.

Daw'r dolenni isod yn fyw yn ddiweddarach y prynhawn yma i fynd â chi at y Datganiad i'r Wasg.

Cymraeg: https://llyw.cymru/llywodraeth-cymrun-denu-ineos-automotive-i-gymru

Saesneg: https://gov.wales/welsh-government-attracts-ineos-automotive-wales