Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi dyfarniad grant o ychydig dros £5.2 miliwn o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru i 70 o brosiectau Dechrau'n Deg ledled Cymru i helpu i wella, datblygu neu ymestyn y lleoliadau lle cynigir darpariaeth Dechrau'n Deg.

Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol a pharhaus yn seilwaith ein rhaglen arloesol ar gyfer y blynyddoedd cynnar a bydd yn galluogi Awdurdodau Lleol i greu cyfleusterau newydd, gwneud gwelliannau i adeiladau a gwneud gwaith atgyweirio hanfodol. Bydd y grant hefyd yn cefnogi gwasanaethau Dechrau'n Deg i ddod yn fwy diogel o ran Covid yn ystod 2021-2022 drwy ariannu'r adnoddau cyfalaf angenrheidiol sydd eu hangen i gefnogi ymbellhau cymdeithasol, i greu gwell mynediad ac i gynorthwyo cyfathrebu rhithwir gyda phlant a theuluoedd.

Mae'r arian ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm ein buddsoddiad cyfalaf am ein rhaglen Dechrau'n Deg i bron £76m ers 2006.

Mae Dechrau'n Deg yn cefnogi teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Mae'n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel sy'n cael ei ariannu'n llawn i blant 2-3 oed; cefnogaeth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; cymorth rhianta; a gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.

Dyfernir cyllid i'r 17 Awdurdod Lleol yng Nghymru a wnaeth gyflwyno cais am y grant eleni.

Rwy'n amgáu'r rhestr o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid.

Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau a’r gwaith i gefnogi'r darpariaeth gwasanaethau i blant a theuluoedd yn yr ardaloedd y mae Dechrau'n Deg yn eu gwasanaethu.

Abertawe

  • £62,000 i Dechrau’n Deg Hafod and St Thomas
  • £15,000 i Dechrau’n Deg Waun Fen
  • £20,000 i Dechrau’n Deg Seaview a Gors
  • £71,000 ar draws 4 lleoliad ar gyfer ffenestri newydd
  • £183,000 ar draws 3 lleoliad Dechrau’n Deg i wella diogelwch
  • £27,000 i Dechrau’n Deg Seaview

Blaenau Gwent

  • £76,300 ar draws lleoliadau Dechrau’n Deg
  • £30,000 i Hwb y Cwm
  • £72,000 gyfer canopïau chwarae awyr agored ar draws 6 lleoliad

Bro Morgannwg

  • £45,000 i’r Ganolfan Teulu Dechrau’n Deg, Y Barri
  • £40,000 i Dechrau’n Deg Ladybirds a Butterflies
  • £65,000 i Swyddfa Dechrau’n Deg, Skomer Road

Caerdydd

  • £1.3m am adeilad newydd blynyddoed Cynnar yn ardal Dechrau’n Deg Splott/Tremorfa
  • £40,000 am ganopiiau y tu allan yn 5 lleoliad Dechrau’n Deg
  • £12,000 i Ofal Plant Rumney Memorial Hall
  • £8,000 i Ofal Plant Fledglings

Caerffili

  • £50,000 i Cylch Meithrin Tedi Twt
  • £45,000 i Dechrau’n Deg Hengoed
  • £45,000 i Canolfan Plant Integredig St James’
  • £25,000 i Dechrau’n Deg Ty Coch
  • £50,000 i Canolfan Teulu Trinant
  • £20,000 i Dechrau’n Deg Philipstown
  • £15,000 i Canolfan Plant Integredig Parc y Felin

Casnewydd

  • £164,600 ar draws 11 lleoliadau Dechrau’n Deg am waith cynnal a chadw
  • £11,500 i Dechrau’n Deg Bettws
  • £113,500 ar gyfer cyfleoedd chwarae awyr agored ar draws 3 lleoliad
  • £10,262 i Dechrau’n Deg Pill Flying Start ac Always

Castell-Nedd Port Talbot

  • £12,000 ar draws lleoliadau Dechrau’n Deg am waith cynnal a chadw
  • £24,000 i Ofal Plant PALs, Gnoll

Ceredigion

  • £58,147 i Cylch Meithrin Llanarth

Conwy

  • £286,421 i Canolfan Teulu Ardal y Gogledd (Eryl Wen) Llandudno

Gwynedd

  • £320,000 am adeilad Gofal Plant newydd ym Mlaenau Ffestiniog
  • £40,000 i leoliadau Dechrau’n Deg Plas Pawb a Seiont a Pheblig

Merthyr Tudful

  • £11,500 i Ofal Plant TEDS
  • £81,750 am ganopiiau y tu allan yn 5 lleoliad Dechrau’n Deg
  • £9,000 i Canolfan Plant Integredig Funtazia
  • £24,000 i leoliad Dechrau’n Deg Nursery Rhymes
  • £9,000 i Canolfan Gofal Plant a Theulu Trinity

Powys

  • £244,398 i Canolfan Plant Integredig Trallwng am waith adnewyddu

Rhondda Cynon Taf

  • £40,000 to Rhydyfelin Children and Family Centre
  • £30,000 to Trealaw Flying Start
  • £15,000 to Little Ferns Cwmbach childcare
  • £30,000 for outside play equipment for 6 settings
  • £10,000 for Little Ferns Glenboi Flying Start

Sir Gâr

  • £50,000 i Ofal Plant Argel
  • £42,000 i Meithrinfa Plant Dewi
  • £42,000 i Grwp Chwarae Bynea
  • £34,000 ar gyfer cysgod/parcio pram mewn 4 lleoliad
  • £3,000 i Dechrau’n Deg High Fliers
  • £8,000 i Canolfan Plant Integredig Llwynhendy
  • £7,000 i Canolfan Plant Integredig a Cylch Meithrin Felinfoel
  • £27,600 i Swyddfeydd Dechrau’n Deg - Morfa

Torfaen

  • £650,000 I Canolfan Plant Integredig Penygarn – estyniad

Wrecsam

  • £10,000 i Swyddfa Hafod Y Wern
  • £20,500 i Canolfan Teulu Ti Ni
  • £252,222 i Ofal Plant Llay – adeilad modiwlar newydd
  • £12,550 i Canolfan Teulu Idwal
  • £25,200 i Ofal Plant Summer Hill
  • £24,350 i Ofal Plant Hill Tots
  • £15,700 i Ofal Plant Cherry Hill
  • £42,000 i Ofal Plant Venture
  • £9,255 i Dechrau’n Deg Bodhyfryd
  • £15,664 i Dechrau’n Deg Min-Y-Don
  • £12,500 i Ofal Plant Caego

Ynys Môn

  • £100,000 i leoliad Dechrau’n Deg Gwalchmai
  • £6,000 i Ofal Plant Llanfawr
  • £16,000 i Ofal Plant Jesse Hughes
  • £6,000 i Ofal Plant Llangefni