Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae gwella iechyd meddwl a llesiant yn o'n prif flaenoriaethau trawslywodraethol yn Ffyniant i Bawb ac mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac i’m holl gydweithwyr yn y Cabinet. Mae hyn yn herio Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd i ystyried ei heffaith ar iechyd meddwl ar draws ei holl weithgareddau. Mae proffil iechyd meddwl yn parhau i dyfu a bydd iechyd meddwl gwael wedi cyffwrdd â phob un ohonom ar ryw adeg, naill ai drwy ein teulu, ein ffrindiau, ein cydweithwyr neu'n cymunedau. Mae’r cynllun cyflawni newydd yr ydym wedi’i gyhoeddi heddiw ar gyfer Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn adlewyrchu lefel y flaenoriaeth a'r gwaith trawslywodraethol sy’n ofynnol i wella iechyd meddwl a llesiant ein poblogaeth yng Nghymru.
Y cynllun cyflawni newydd yw'r trydydd cynllun, a'r un terfynol, sy'n gysylltiedig â’r Strategaeth 10 mlynedd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a gyhoeddwyd yn 2012. Rydym wedi dod yn bell ers cyhoeddi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Er enghraifft, rydym wedi lleihau’n sylweddol nifer y plant sy'n aros mwy na phedair wythnos i gael mynediad at driniaeth ac wedi lleihau derbyniadau iechyd meddwl i'r ysbyty, drwy roi pwyslais ar fwy o gymorth yn y gymuned. Mae newidiadau eisoes i’w gweld yn amlwg mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys ailfodelu darpariaeth i ddiwallu anghenion llesiant emosiynol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae rhaglen drawsnewid Gwent yn enghraifft o hyn. Rydym hefyd wedi cynyddu'r ystod o gefnogaeth sydd ar gael trwy sefydlu gwasanaethau newydd gan gynnwys CAMHS a thimau ymyrraeth i oedolion mewn argyfwng, cyswllt seiciatryddol mewn ysbytai a thimau iechyd meddwl cymunedol - ond mae mwy o waith i'w wneud ac mae'r cynllun cyflawni newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar y ffactorau amddiffynnol ar gyfer iechyd meddwl da drwy waith trawslywodraethol ac amlasiantaethol. Yn ganolog i hyn, o ganlyniad i'r galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl, mae'r cynllun cyflawni newydd yn cydnabod bod angen inni wneud mwy i atal salwch meddwl ac amddiffyn rhagddo, yn ogystal â pharhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol.
Yn fy natganiad blaenorol fe wnes i adlewyrchu ar yr ymateb da i'n hymgynghoriad gyda dros 240 o ymatebion ysgrifenedig a mwy na 150 o bobl yn bresennol mewn tri digwyddiad ymgynghori ffurfiol ar draws Cymru. Daeth yr ymatebion gan ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr gofalwyr, awdurdodau lleol, y GIG a chyrff proffesiynol. Rwy'n ddiolchgar i bawb wnaeth roi o'u hamser i ddod i'r digwyddiadau neu i gyflwyno sylwadau ar y cynllun cyflawni drafft. Er bod yr ymatebwyr yn gyffredinol gefnogol i'r meysydd blaenoriaeth, y ffocws ar ffactorau amddiffynnol a'r pwyslais ar blant a phobl ifanc, yn enwedig drwy ein dull ysgol gyfan, roedd yr ymgynghoriad yn tynnu ein sylw at nifer o feysydd y mae angen eu cryfhau yn y cynllun terfynol. Mewn ymateb i’r adborth hwn, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau. Er enghraifft, rydym wedi ehangu'r camau gweithredu o fod â phwyslais ar gysgu allan a digartrefedd i set ehangach o gamau gweithredu i wella iechyd meddwl drwy gymorth tai. Rydym hefyd wedi cynnwys camau gweithredu i adlewyrchu sut y gall gwella mynediad i fannau gwyrdd, gweithgareddau diwylliannol a hamdden awyr agored gefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant. Clywsom hefyd drwy'r ymgynghoriad bod angen camau gweithredu wedi'u targedu'n well i gefnogi'r gweithlu iechyd meddwl. Mewn ymateb i hyn rydym wedi cynnwys ymrwymiad newydd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ddatblygu cynllun gweithlu traws-sector ar gyfer iechyd meddwl. Mae'r cynllun newydd hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu o ymchwil a chryfhau data a chanlyniadau, ac rydym wedi ymrwymo i werthusiad trylwyr ac annibynnol o'r Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl fel y gallwn asesu ein heffaith hyd yma ond - yn hanfodol - gan sicrhau ein bod yn cymryd y camau gweithredu cywir mewn agenda gymhleth a heriol.
Dyma gynllun uchelgeisiol, sy’n mynd â ni at ddiwedd ein Strategaeth 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad i gefnogi’r gwelliannau angenrheidiol ac ers 2016-17 rydym wedi cynyddu’r cyllid a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl ym mhrif ddyraniad y GIG cymaint â £75m neu 12.5% – yn 2020-21 bydd yn cynyddu i dros £700 miliwn. Mae hwn yn fuddsoddiad arwyddocaol ac ystyrlon i wella gwasanaethau, ond wrth gwrs nid yw’n cynnwys ein buddsoddiad ehangach i ddiogelu iechyd meddwl drwy ein gwaith traws-lywodraethol, er enghraifft ar atal, cyflogaeth, addysg a thai.
Mae ein Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl wedi’i seilio ar egwyddor gweithio mewn partneriaeth ar draws y Llywodraeth, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector gan gydnabod na all yr un corff na sector drawsnewid gwasanaethau a gwella iechyd meddwl a llesiant ein poblogaeth ar ei ben ei hun. Gobeithiaf y gallwn barhau i adeiladu ar y gwaith partneriaeth a’r cydweithio amlasiantaethol sydd eisoes wedi’i wneud yn y cynlluniau cyflawni blaenorol er mwyn gwireddu’r ymrwymiad yn y cynllun cyflawni newydd ac uchelgais Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.