Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwy’n falch o gyhoeddi bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran datblygu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol.
Yn ôl tystiolaeth ryngwladol mae’r systemau addysg sy’n perfformio orau yn cynhyrchu ac yn datblygu athrawon i fod yn arweinwyr rhagorol. Yr hyn sy’n gwbl hanfodol i lwyddiant ein diwygiadau addysgol yw ein bod yn datblygu capasiti ein gweithlu addysg i lywio ac arwain newid a chodi safonau.
Dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2014 y dylai datblygu arweinyddiaeth systemau fod yn un o brif flaenoriaethau diwygio’r system addysg. Fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i gymell, cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth ymhlith addysgwyr er mwyn codi safonau yn gyffredinol a datblygu hyfforddiant a chyfleoedd i athrawon a’r gweithlu addysg ehangach.
Mae datblygu’r Academi Arweinyddiaeth yn gam pwysig ymlaen ochr yn ochr â’n safonau addysgu proffesiynol newydd, diwygio’r system Addysg Gychwynnol i Athrawon, a diwygio’r cwricwlwm, wrth i ni fynd ati gyda’n gilydd i ddatblygu arweinyddiaeth.
Mae partneriaid allweddol o Gymru a thu hwnt wedi bod yn rhan o’r trafodaethau cychwynnol i gynllunio corff hwyluso. Bydd y corff hwn yn helpu i symud ein hagenda ddiwygio ymlaen a darparu’r cyfleoedd dysgu ar gyfer arweinwyr heddiw ac arweinwyr y dyfodol sydd eu hangen er mwyn creu cymuned lewyrchus o arweinwyr ym myd addysg.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r partneriaid hyn, byddaf nawr yn ffurfio Bwrdd Cysgodol ar gyfer yr Academi a fydd yn gweithio ar sail gorffen a gorchwyl i asesu’n llawn hyd a lled y gwaith, y strwythur trefniadol, y trefniadau llywodraethu, a’r weledigaeth ar gyfer yr Academi arfaethedig.
Rwyf wedi gofyn i Ann Keane, cyn-Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, i gadeirio cam cychwynnol y gwaith hwn. Bydd yn gweithio gyda phob partner allweddol i ddatblygu fframwaith yr Academi. I helpu’r cadeirydd, rydym hefyd wedi penodi’r aelodau canlynol ar gyfer y bwrdd cysgodol:
- Yr Athro Alasdair Macdonald – sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel Eiriolwr y Grant Amddifadedd Disgyblion;
- Yr Athro Mick Waters – yn bennaeth profiadol, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Cwricwlwm y QCA, mae Mick wrthi’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar ddatblygu safonau proffesiynol (gan gynnwys datblygu ar y cyd safonau ar gyfer arweinwyr ysgolion);
- Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg;
- Cynrychiolydd pedwar Rheolwr-Gyfarwyddwr y consortia rhanbarthol;
- Cynrychiolydd o Gyngor y Gweithlu Addysg;
- Cynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Bydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi Estyn hefyd yn arsylwi gwaith y bwrdd. I ddechrau, caiff y bwrdd cysgodol gymorth gan fy swyddogion, ond rwyf hefyd yn ceisio dod o hyd i gwmni ymgynghori allanol i ddarparu arbenigedd ac adnodd wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen. Gwahoddwyd yr undebau llafur hefyd i enwebu cynrychiolydd. Bydd y bwrdd yn penderfynu ar weithgorau pellach, er enghraifft sicrhau profiad o arwain mewn meysydd eraill ac o wledydd ar draws y byd, a allai fod o gymorth yn ei waith gydag amrywiaeth o grwpiau defnyddwyr.
Rwy’n disgwyl i’r bwrdd ymgysylltu’n eang â gweithwyr addysgu proffesiynol ac arweinwyr er mwyn sicrhau bod yr Academi yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sy’n ennyn eu hyder. Yn y pen draw, y bwriad yw creu Academi y gall ein harbenigwyr addysgol droi ato ar gyfer y ddysg orau yn y byd, a ddarperir drwy bartneriaeth yma yng Nghymru.
Bydd yr Academi yn sicrhau y gallwn ddatblygu’n llwyddiannus dalent i arwain nawr ac yn y dyfodol, drwy bartneriaeth effeithiol rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a sefydliadau addysg uwch – yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd yn helpu i sicrhau y gall pob ysgol weithredu ein cwricwlwm newydd a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru, a bydd yn helpu i sicrhau bod ein system yn datblygu mewn ffordd fwy cyson gan roi lle canolog i gydweithredu.
Bydd yr Academi yn gorff hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Dros amser disgwyliaf y caiff ei groesawu gan athrawon ac eraill ledled Cymru wrth iddo gydweithio â nhw a gweithio drostynt i sicrhau bod y proffesiynolion sy’n arwain, a’r rheini a fydd yn arwain yn y dyfodol, yn elwa ar gyfleoedd datblygu o ansawdd sydd wedi’u cynllunio’n dda, ac sydd â phersbectif byd-eang ar arweinyddiaeth.
Nid darparwr yn unig fydd yr Academi. Bydd hefyd yn gweithio gyda phob partner ymroddedig i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu arweinyddiaeth yn cael ei gydgysylltu’n dda, yn briodol, yn heriol er mwyn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth i bob arweinydd i arwain mewn byd sy’n newid. Rwyf hefyd yn disgwyl gweld ein Prifysgolion yn cydweithio’n agos â’i gilydd ac â’n gwasanaethau rhanbarthol a, lle bo’n briodol, gydag arweinwyr y byd mewn arweinyddiaeth addysgol, i hwyluso datblygiad unigolion ar draws amrywiaeth o leoliadau.
Wrth weithio i sefydlu’r Academi, byddwn yn canolbwyntio ar weithio gyda dau grŵp targed.
- Byddwn yn canolbwyntio ar brif anghenion ein cenhedlaeth nesaf o benaethiaid, gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n drwyadl ar gyfer rôl hollbwysig bod yn bennaeth. Bydd hyn yn cynnwys ystyried strwythur presennol cymhwyster CPCP, yn ogystal â datblygu llwybrau ar gyfer y rheini sydd am fod yn benaethiaid, ac yn bwysig iawn cefnogi penaethiaid newydd ym mlynyddoedd cynnar eu rôl.
- Byddwn hefyd yn cydweithio â’n penaethiaid llwyddiannus sydd wedi bod yn eu rôl ers tro er mwyn creu grŵp o arweinwyr a all ddarparu arweinyddiaeth helaeth bellach ar draws ein system gyfan. Bydd hyn yn cynnwys gofalu bod Llywodraeth Cymru yn cael digon o wybodaeth gan ein prif arbenigwyr addysgol.
Y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol hwnnw, bydd yr Academi yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno cymorth a chyfleoedd datblygu ar gyfer grŵp ehangach o arbenigwyr addysg – gan gynnwys uwch arweinwyr ac arweinwyr canol mewn lleoliadau addysgol, staff addysg awdurdodau lleol yn ogystal â swyddogion addysg Llywodraeth Cymru. Nawr yw’r amser i sicrhau bod ein prif chwaraewyr i gyd yn rhannu’r weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru.
Heddiw, felly, rwy’n cynnig her i’n partneriaid mewn Addysg Uwch, yn y gwasanaethau rhanbarthol ac mewn lleoliadau eraill i ofyn ichi weithio’n agored ac yn dryloyw gyda’r amrywiol bartneriaid angenrheidiol fel y gallwch gydweithredu i chwarae eich rhan.
Academi Arweinyddiaeth fydd hon a fydd yn gwasanaethu ein cymuned addysg. Dyla’r grŵp cyntaf o benaethiaid a’r rheini sydd am fod yn benaethiaid weld budd y rhaglenni ym mis Medi 2017, ac rwy’n disgwyl gweld y gymuned arweinwyr gyfan o fewn y byd addysg yng Nghymru yn elwa ar waith ein Hacademi newydd.
Mae hwn yn gam nesaf pwysig i sicrhau bod ein system gyfan yn parhau ar ei thaith tuag at welliant.